Cost of Living Support Icon

Dosbarthiadau a Digwyddiadau

Archwilio’ch coeden deulu, dysgu defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais dabled a llawer mwy

 

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai drwy rwydwaith llyfrgelloedd Bro Morgannwg. Dyma gyfle i ddysgu mewn cynefin anffurfiol gyda thiwtoriaid cymwys, cyfeillgar. 

classes

 

atomic-training logo

Dysgu yn y Cartref 

Ydych chi’n methu dod i’r llyfrgell? Dysgwch sgiliau digidol gartref gan ddefnyddio hyfforddiant Atomic Training 

Oes angen help arnoch chi i ddefnyddio dyfais dabled, ffôn symudol, cyfrifiadur, Mac, meddalwedd, blogiau, Twitter ac ati?

Mae adnodd hyfforddiant fideo Atomic Training yn cynnig mynediad digyfyngiad i filoedd o glipiau fideo sy’n cynnwys dros 500 o amrywiadau meddalwedd cyfredol. 

 

Sesiwn Ddigidol Anffurfiol

Dewch â’ch dyfais eich hun neu defnyddiwch un o’n rhai ni a gallwn ni ateb ymholiadau a datrys problemau am fynd ar-lein. Does dim angen cadw eich lle – galwch heibio unrhyw bryd.

 

  • Llyfrgell Y Barri: Dydd Mawrth a Dydd Iau 11am - 2pm / Dydd Gwener 11am - 1pm

  • Llyfrgell Y Bont-faen: Dydd Mercher 3pm - 5pm

  • Llyfrgell Dinas Powys: Dydd Mercher 10am - 12pm

  • Llyfrgell Llanilltud Fawr: Dydd Mawrth 2pm - 4pm

  • Llyfrgell Penarth: Dydd Mercher a Dydd Gwener 10am - 1pm

  • Llyfrgell Y Rhws: Dydd Llun 10am - 12pm

  • Llyfgell Sain Tathan: Dydd Mawrth 9:30am - 11:30am

  • Llyfrgell Sili: Dydd Iau 3pm - 4pm

  • Llyfrgell Gwenfo: Dydd Mercher 11am - 12pm

 

 

 

 

Digital Drop-in

    

Cymorth Cyfrifiadurol

Gallwch chi drefnu apwyntiad unigol gydag aelod o staff, a fydd yn eich tywys drwy’r broses o ddefnyddio cyfrifiadur am y tro cyntaf.Pan fyddwch chi wedi magu hyder, gallan nhw eich helpu chi i agor cyfrif e-bost i chi gysylltu â theulu a ffrindiau, a’ch cyflwyno i chwilio ar-lein.

 

I drefnu apwyntiad, cysylltwch â’ch llyfrgell leol

tablet lesson