Tŷ’r Cwmnïau
Yn unol â Deddf Cwmnïau 1985, mae’n ofynnol ar gwmnïau cyfyngedig i anfon dogfennau penodol at Dŷ’r Cwmnïau. Ymhlith y dogfennau rheiny fel arfer, bydd y cyfrifon blynyddol. Ymhlith gweithredoedd statudol Tŷ’r Cwmnïau mae:
- ymgorffori a diddymu cwmnïau
- archwilio a dal dogfennau sydd wedi eu hanfon ato yn unol â’r Ddeddf
- gwneud y wybodaeth hon yn hysbys i’r cyhoedd
Mae Tŷ’r Cwmnïau’n medru darparu cyfrifon yn uniongyrchol i’r cyhoedd, ond mae’n rhaid talu ffi am hyn.
Mae pencadlys Tŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd, ond mae ganddo swyddfeydd hefyd yn Llundain, Birmingham, Manceinion, Leeds a Glasgow. Y rhif ffôn canolog ar gyfer ymholiadau yw 08703 333636.
Mae gwybodaeth ar wefan Tŷ’r Cwmnïau am y sefydliad, a cheir mynediad i restr o gwmnïau cofrestredig. Mae’r rhestr hon yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol yn unig - enw, cyfeiriad a rhif y cwmni a’r math o fusnes yw e. Ceir gwybodaeth gan Dŷ’r Cwmnïau ond mae ffi yn daladwy am hyn. Ar gael ond mae’n rhaid talu amdani.
Companies House