Gaeaf: Rhagfyr, Ionawr a Chwefror
Yn y tywydd garw a’r tymheredd oerach, bydd coed diosgol yn colli eu dail a bydd gwe pry cop yn rhewi. Mae’r diwrnodau’n fyr, ac mi fydd yr holl greaduriaid, yn enwedig adar bach, yn treulio oriau golau dydd yn chwilota am ddigon o fwyd i oroesi. Gall rhew ac iâ ei gwneud yn llawer anoddach iddynt ddod o hyd i fwyd.
I’r creaduriaid rheiny nad sydd wedi ymfudo dros y gaeaf nac wedi gaeafu, yr her yw cadw’n fyw tan y gwanwyn. Pob gaeaf, mae’r llynnoedd yn denu heidiau o adar hela ymfudol, a bydd rhai ohonynt wedi teithio dros fil o filltiroedd i dreulio’r gaeaf yn Cosmeston.
Mae elyrch mud, hwyaid gwyllt a chwtieir yn byw ar lyn y dwyrain gydol y flwyddyn. Mae llyn y gorllewin yn denu amrywiaeth fawr o hwyaid, megis corhwyaid chwibanog, hwyaid copog, hwyaid pengoch a hwyaid llydanbig, yn ogystal ag un o brif atyniadau byd adar, aderyn y bwn. Ymhlith ymwelwyr gaeafol eraill ceir esgyll cochion, adar yr eira ac weithiau, adenydd cwyr.
Yn aml iawn yn ystod y gaeaf, bydd rhannau o’r llynnoedd, os nad llyn cyfan, yn rhewi’n gorn, a’i gwneud yn amhosibl i elyrch a hwyaid fwyta. Gall hyn arwain at yr achlysuron prin rheiny pan fydd ceidwaid yn gorfod dosbarthu sacheidiau o yd iddynt. Yn y llun ar y chwith, gallwch eu gweld yn ymuno â’r gwt cinio.