Ynglŷn â Dyfrgwn
Mae'r dyfrgi Ewropeaidd (Lutra lutra) yn cael ei gydnabod yn eang fel arwyddlun ar gyfer cadwraeth natur yn y DU gan ei fod yn un o’r prif ysglyfaethwyr ac yn ddangosydd biolegol pwysig o iechyd ein hafonydd a'n gwlyptiroedd. Felly, mae monitro statws y dyfrgi yn rhoi mesur gwerthfawr i ni o gyflwr ein hecosystemau dŵr a gwlypdir.
Yng Nghymru, fel nifer o ardaloedd eraill y DU, mae'n anifail nosol i raddau helaeth ac anaml y'i gwelir yn y gwyllt. Fodd bynnag, mae'n bosibl canfod ei bresenoldeb drwy chwilio am ei ddiferion (baw dyfrgwn) ac ôl troed nodedig.
Mae dyfrgwn wedi'u cofnodi ym mhob afon yn y Fro – mae'r rhan fwyaf yn cael eu cofnodi drwy arolygon CNC ond mae'r arolygon hyn yn tueddu i fod yn gipolwg, yn gyfnod arolwg cyfyngedig iawn ac nid ydynt yn cofnodi llawer o gofnodion hysbys.
Mae Prosiect Dyfrgwn y Cyngor a Phrifysgol Caerdydd wedi derbyn llawer o adroddiadau o ddyfrgwn drwy gofnodion anecdotaidd gan aelodau o'r cyhoedd, camerâu bywyd gwyllt ac ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol – e.e. nifer o gofnodion diweddar o Barc Gwledig Porthceri, Ystâd Ffwl-y-mwn, Trwyn y Rhws, Cosmeston, Ardal traeth Larnog a Llanilltud. Hoffem greu darlun gwell o boblogaethau dyfrgwn ledled y Fro.