Cost of Living Support Icon

Porthordy’r Goedwig

Caban pren yw Porthordy’r Goedwig Parc Gwledig Porthceri, ac mae ar gael i’w logi at ddefnydd masnachol a chymunedol. 

 

Mae nifer ac amrywiaeth y gweithgareddau a gynigir i ymwelwyr ym Mharc Gwledig Porthceri wedi bod yn cynyddu, ond hyd yn hyn, nid oes gofod dan do wedi bod ar gael.

 

Roedd y parc yn ffodus o dderbyn arian gan Gronfa Ader y Barri i adeiladu caban pren o’r enw Porthordy’r Goedwig.

 

Adeiladwyd Porthordy’r Goedwig, a leolir ger y prif faes parcio, o goed pinwydd gwyllt, a thair wythnos yn unig a gymerodd i’w godi. 

  • Cyflenwad trydan
  • Llosgwr pren
  • Maint: 8m x 8m
  • Uchafswm llefydd i eistedd: 60 o bobl

 

Nodwch: nid oes cegin na thoiledau yn y caban, ond mae’r caffi a’r toiledau ger llaw.

 

Llogi Porthordy’r Goedwig

Defnyddir Porthordy’r Goedwig gan wasanaeth y ceidwaid i ddarparu gweithgareddau byd natur i ysgolion a grwpiau cymunedol, ac fel lleoliad ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau newydd, cyffrous.

 

prices
 Defnydd MasnacholDefnydd cymunedol ac elusennol
Awr £52.00* £41.60* 
Hanner diwrnod £108.00* £86.40*
Diwrnod cyfan £172.00* £137.60*
     

 

Blaendal: £25.00

 

*Plus staff costs if required

 

Am wybodaeth bellach am logi Porthordy’r Goedwig, cysylltwch â gwasanaeth y ceidwaid: