Cost of Living Support Icon

Cwm NashGlamorgan-Heritage-Coast-logo

Mae hwn yn un o’r ychydig draethau ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg y mae gofyn gwneud ychydig o ymdrech i’w gyrraedd. Dilynwch lwybr cerdded godidog, coediog, sy’n dilyn Nant Nash i’r traeth. 

 

Mae traeth Cwm Nash, a elwir yn Monknash hefyd, yn draeth bendigedig â chlogwyni dramatig yn gefnlen iddo. Mae’r nant yn llifo dros haenau’r creigiau ac yn creu rhaeadrau sy’n ffrydio ac yn gadael pyllau dŵr toreithiog a thraeth euraid trawiadol pan fo’r llanw allan. 

 Monknash Beach


Treftadaeth a Bywyd Gwyllt

Mae Cwm Nash yn lle gwych i weld yr hebogiaid gleision sy’n nythu ar y clogwyni. O bosib y gwelwch bâr yn cylchu fry uwchben yn hela ysglyfaeth. Gwyliwch wrth iddynt blygu eu hadenydd yn ôl a phlymio i ddal yr ysglyfaeth honno ar gyflymder o hyd at 200 milltir yr awr.

 

Pan fyddwch yn ymweld â’r traeth, edrychwch i fyny wyneb y clogwyn bach gorllewinol, ac efallai welwch chi esgyrn yn ymwthio allan. Credir bod pen y clogwyni yma’n safle claddu i’r gymuned leol a phobl a foddodd mewn llongddrylliadau erchyll yn ystod yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg. Er iddynt gael eu niweidio dipyn, daethpwyd o hyd i’r esgyrn hynafol pan ddymchwelodd rhannau o’r clogwyni mewn storm, a datgelu’r beddi a aeth yn hir angof.

 

Bu cysylltiad clòs rhwng pentref cyfagos Monknash a’r eglwys ar un adeg. Maenor oedd Monks Nash – fferm bellennig dan berchnogaeth yr eglwys – ac roedd yn cyflenwi bwyd i’r abaty Sistersaidd yng Nghastell-nedd. Gwelir olion y faenor mewn rhai mannau yn y pentref hyd heddiw. Defnyddiwch ein pecyn hwyl i’r teulu i grwydro’r pentref a dod o hyd i weithdy’r saer coed,  y colomendy a phwll y brithyll ymhlith eraill.

 

Pan fyddwch chi yn y pentref, cofiwch alw yn nhafarn hanesyddol y Plough and Harrow a chlywed eu straeon ysbrydion.

 

Cyfleusterau

  • Tafarn
  • Parcio
  • Gwarchodfa Natur