Cost of Living Support Icon

Water VoleLlygod y Dŵr

Llygoden y dŵr (Arvicola terrestris), sy’n ymddangos yn ‘The Wind in the Willows’, ydy’r llygoden ddŵr frodorol fwyaf o ran ei maint. Mae’n pwyso hyd at 350g, ac mae ganddi gorff crwn, trwyn smwt a chlustiau bach, crwn. 

 

Maent yn byw mewn mannau lle ceir llystyfiant trwchus ar hyd glannau afonydd araf eu llif, ffosydd, llynnoedd a chorstiroedd, lle mae cyflenwad dŵr gydol y flwyddyn.

 

Mae arwyddion y gallwch chwilio amdanynt os ydych chi’n cerdded ar hyd glan afon:

  • Tyllau - twll mynediad lletach na’i uchder (4-8cm) heb sbwriel yn weddill o’i gwmpas
  • Gorsafoedd bwydo - pentwr twt o lystyfiant wedi’i gnoi (glaswellt a chyrs) a thoriadau 45 gradd ar y pen
  • Dom – 8-12mm o hyd a 4-5mm o led â phennau crwn, pŵl wedi eu gadael mewn ceudai (mat fflat o hen dom â dom ffres yn haen uchaf)

Yr arwydd mwyaf nodedig yw plop uchel wrth i lygoden y dŵr blymio - pwrpas y plop yw rhybuddio llygod y dŵr eraill yn y cyffiniau.

 

Water Vole survey

Achosion y Dirywiad

Ymhlith y ffactorau sydd wedi cyfrannu ar y dirywiad yn niferoedd llygod y dŵr mae: colli a diraddio cynefin, dulliau rheoli dŵr anaddas a chyflwyniad y minc Americanaidd estron. Ers i’r mincod gael eu cyflwyno yn y DU, mae rhai o’u rhywogaethau wedi cael effaith ddifrifol ar niferoedd llygod y dŵr, ac mewn rhai ardaloedd, mae wedi achosi tranc y rhywogaeth.

 

Mae llygod y dŵr wedi eu rhestru fel rhywogaeth sy’n cael blaenoriaeth gwarchod BAP yn y DU, er mai cyfyngedig yw’r amddiffynfa honno mewn deddfwriaeth Brydeinig, a dim ond eu cynefin sydd wedi ei warchod.