Cost of Living Support Icon
High Brown Fritilaries

Pili-pala’r Brith Brown

Pili-pala mawr yw’r brith brown (Argynnis adippe), a gwelir e’n hedfan yn nerthol uwchben llethrau llawn rhedyn a llystyfiant isel mewn llecynnau agored mewn coetiroedd.

 

Wrth hedeg, mae’r gwryw yn debyg iawn i’r brith gwyrdd tywyll, ac maent yn rhannu cynefin yn aml iawn. Pan fyddant yn bwydo ar flodau, gellir gwahaniaethu rhwng y rhywogaethau oherwydd y marciau neilltuol o dan yr adenydd.

  

Cafwyd dirywiad sylweddol yn amrywiaeth y brith brown (hyd at 94%), ac yn 1995 dim ond 51 o nythfaoedd oedd yn bodoli yn y Deyrnas Unedig i gyd. Oherwydd y dirywiad difrifol hwn, mae wedi ei gofrestru fel rhywogaeth mewn perygl yn Llyfr Coch Data’r DU.

 

Mae’n bridio mewn dau brif fath o gynefin: safleoedd rhedynog lle mae fioledau’n tyfu, a llecynnau agored mewn coetiroedd â sail o garreg galch. Credir mai yn Ardal y Llynnoedd yn unig y ceir yr ail fath o gynefin, ac mae’r holl safleoedd yng Nghymru’n llethrau rhedyn lle ceir:

  • Safleoedd rhedyn clòs pan fydd y tir wedi’i orchuddio â rhedyn marw ynghyd â gorchudd tila o laswellt
  • Fioled y cŵn cyffredin ymhlith llystyfiant ysbeidiol ar wyneb y tir
  • Safle agored, heulog, cysgodol, fel arfer yn wynebu’r de, yn is na 300m uwchben y môr
  • O leiaf dau i bum hectar o gynefin sy’n addas i nythfa fridio

 

Butterfly Conservation (Saesneg)

Butterfly - high brown fritilary

Cynllun Cwm Alun

Yng Nghwm Alun ym Mro Morgannwg y ceir y nythfa olaf yng Nghymru o’r brith brown, yn ôl pob tebyg. Ceir dwy rywogaeth arall o’r fath yno hefyd, sef y brith gwyrdd tywyll a’r brith perlog bach.

 

Yn 1999 roedd niferoedd y brith brown wedi dirywio i isafswm peryglus.

 

Yn 2003, gwnaeth mudiad Butterfly Conservation gais am arian gan Gronfa Cynaliadwyedd Trethi Cyfanswm ar ran Partneriaeth Bioamrywiaeth y Fro er mwyn gweithredu cynllun rheoli ac adfer cynefin.

 

Gyda chymorth cynllun gan Arfordir Treftadaeth Morgannwg a thîm ymroddgar o wirfoddolwyr, bu gwaith clirio prysgwydd a choedlannu’n digwydd pob gaeaf ers 2003 i geisio adfer cynefin fridio.

 

Ers i’r gwaith ddechrau, mae niferoedd y brith brown wedi codi pob blwyddyn, ac mae wedi ymddangos yn yr holl barthau sy’n cael eu rheoli. Ym mis Mai 2006 cynhaliwyd asesiad o ansawdd y cynefin er mwyn creu cymhariaeth ‘cynt ac wedyn’, a dangosodd hwn fod:

  • Nifer y fioledau wedi cynyddu
  • Sbarion y rhedyn ac uchder y glaswellt a’r mwsogl wedi gwella
  • Y brith brown a’r brith gwyrdd tywyll yn bridio ar y safle, yn sgil dod o hyd i lindys

 

Mae cyfrifiadau trawslun blynyddol o bili-palod aeddfed wedi dangos bod lefel y niferoedd wedi gwella’n aruthrol.