Cost of Living Support Icon

Great crested newtY Fadfall Gribog Fawr

Mae’r Fadfall Gribog Fawr yn rhywogaeth sy’n cael blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol y Fro.

 

Mae’n rhywogaeth sy’n cael blaenoriaeth yn y DU, Cymru ac Ewrop hefyd ac un a ddiogelir gan gyfreithiau bywyd gwyllt y DU ac Ewrop.

 

Bu dirywiad sylweddol yn niferoedd y Fadfall Gribog Fawr dros yr hanner can mlynedd olaf. Credir bod y dirywiad hwn o ganlyniad uniongyrchol i leihad yn y nifer o byllau sydd ar gael iddyn nhw fridio. Mae angen i ni weithredu os ydym am ddiogelu dyfodol y rhywogaeth hon sydd dan fygythiad yn rhyngwladol.

 

Mae llawer o waith da wedi cael ei wneud ar ran y Fadfall Fawr Gribog ym Mro Morgannwg, gan gynnwys y camau fel y nodir yn y Cynllun Bioamrywiaeth Leol.

 

Cosmeston-Lakes-Country-Park

Creu Pwll ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, cynhaliwyd project creu pwll ar gyfer Madfallod Cribog Mawr. Yn 2003/4 gwnaeth Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston ailsefydlu tri phwll ar safle Cosmeston gyda chymorth grant gan FROGLIFE.

 

Cafodd y pyllau newydd eu hadeiladu er mwyn creu mwy o gynefinoedd bridio i'r Madfallod Cribog Mawr ar y safle. Gobeithiwn ar ôl sefydlu'r pyllau eraill, y bydd Madfallod Cribog Mawr yn symud i mewn ac y bydd poblogaeth Cosmeston yn ehangu hyd yn oed yn fwy.

Newt Tunnel at Dyffryn

Ardal Fadfallod Gerddi Dyffryn

Yn ystod y gwaith adsefydlu yn y Gerddi, daethpwyd o hyd i Fadfallod Cribog Mawr yn bridio yn y pyllau uwchben ardal y rhaeadr.

 

Ymgymerwyd â gwaith cyfoethogi cynefinoedd er mwyn mynd ati’n benodol i gyfoethogi’r cynefin ar gyfer Madfallod Cribog Mawr yn rhan o’r cynllun adfer.

 

Mae’r “ardal Fadfallod” wedi’i hariannu â chymorth grant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.  

 

Twneli:  Creu twneli o dan lwybrau ynghyd â rhedfeydd sment i arwain madfallod at fynedfeydd y twneli.  Mae’r twneli wedi’u gosod o dan y llwybrau cerdded er mwyn cysylltu’r pyllau at ei gilydd ac at y cynefin prysgwydd gerllaw a ddefnyddir gan y madfallod i chwilio am fwyd.   Gall llwybrau cerdded weithredu fel rhwystrau i fadfallod, ond mae’r twneli arbennig hyn ar eu cyfer yn caniatáu iddynt symud yn rhydd o gwmpas y safle.

 

Twmpath Gaeafgwsg:  Adeiladu twmpath gaeafgwsg.  Mae’r twmpath yn cynnwys llawer o ddarnau garw o graig gyda bylchau rhyngddynt.   Caiff peipiau eu gwthio i’r twmpath i ddarparu llwybrau mynediad iddo.  Gall y madfallod deithio i ganol y twmpath drwy’r peipiau a gwasgu i’r bylchau rhwng y darnau o greigiau i aeafgysgu. 

Pond restoration work

Gwaith Gwella Pyllau

Yn dilyn arolwg o Byllau ym Mro Morgannwg, tynnwyd sylw at nifer o byllau Madfallod Cribog pwysig. Roedd rhai o’r pyllau hyn angen eu rheoli/gwaith adfer i sicrhau bod yr amodau’n parhau i fod yn addas ar gyfer bridio Madfallod Cribog Mawr.

 

Cafodd y gwaith, a oedd yn cynnwys clirio llawer o lystyfiant i wneud lle i fwy o ddŵr agored ar gyfer y Madfallod Cribog Mawr, ei ariannu gan Asiantaeth yr Amgylchedd a’i gyflawni dan drwydded gan dîm Ecoleg y Cyngor a thîm Arfordir Treftadaeth Morgannwg a’r syrfëwr amffibiaid, Stephen Lowe.

Drain modifications

Project Draeniau Mwy Diogel

Mae pwll sy’n eiddo i Awdurdod Lleol ym Mro Morgannwg yn gartref i’r boblogaeth fwyaf o fadfallod cribog mawr yn Ne Cymru.

 

 Mae’r madfallod angen cynefin daearol i hela am ysglyfaeth ddi-asgwrn-cefn ac i gysgodi yn ystod adegau oer a sych iawn o’r flwyddyn.   I gael mynediad at y safleoedd hyn, roedd angen i’r madfallod groesi’r ffordd ger y pwll lle y byddent heb yn wybod yn disgyn i’r draeniau a oedd wedi’u gosod yn dynn yn erbyn y cwrb.

 

Adroddodd Stephen Lowe, Syrfëwr Gwirfoddol o Fadfallod Cribog Mawr, bod cannoedd o fadfallod yn cael eu dal o dan y draeniau bob blwyddyn lle nad oeddent yn gallu dianc.  Aeth y tîm arolygu pyllau ati i ymgymryd â rhaglen achub yn syth er mwyn canfod graddfa’r broblem.

 

Yn 2005, aeth Adran Priffyrdd a Thîm Ecoleg y Cyngor ati i weithio i symud y draeniau oddi wrth y cwrb: gan adael sil bach i’r madfallod gerdded ar ei hyd.  Derbyniodd y cynllun arian cyfatebol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

 

Mae’r addasiadau bellach wedi’u cwblhau ac mae canlyniadau’r arolwg o 2006 yn awgrymu bod y newidiadau i’r cwrb wedi bod yn llwyddiant: canfuwyd dim ond 65 o fadfallod yn y draeniau o’i gymharu â 318 cyn i’r gwaith ddechrau.