Cost of Living Support Icon

Y Pathew

Anifail bach yw’r pathew, ac mae’n pwyso tua’r un faint â dau ddarn punt. Aur llachar yw ei liw, ac mae ganddo gynffon tew, blewog a llygaid mawr, du. 

 

Mae’n hawdd gwahaniaethu rhwng y pathew a mamaliaid eraill, ond mae’n greadur nosol, felly annhebygol iawn y dewch chi ar draws un wrth fynd am dro yng nghefn gwlad.

 

Ar y cyfan, mae pathewod yn arbenigo mewn coetiroedd hynafol, ac yn ffafrio coetir collddail ac ynddo amrywiaeth eang o rywogaethau coed a phrysgwydd. Yn Ne Cymru, maent i’w gweld mewn cynefinoedd eraill, gan gynnwys cloddiau aeddfed, gwelyau cors a chynefinoedd prysgoed.

 

Maent yn bwyta blodau, paill, ffrwythau, pryfed a chnau aeddfed, ac mae angen cyflenwad parhaus o fwyd arnynt drwy gydol y gwanwyn a’r haf. Oherwydd hyn, mae cyll, gwyddfid, mieri a deri yn arbennig o bwysig wrth ddarparu bwyd.

 

Mae pathewod yn brin yn Ynysoedd Prydain ar y cyfan, ond maent yn fwy cyffredin yn y de a’r gorllewin am ei bod yn llai gwlyb ac oer yno. Mae pathewod yn rhywogaeth sy’n cael ei warchod, ac mae’n anghyfreithlon tarfu arnyn nhw a’u cynefin. 

 

Dormouse

Pathewod yn y Fro

Digon tila yw’r wybodaeth sydd gennym am ddosbarthiad y pathew ym Mro Morgannwg a ledled De Cymru hyd yn hyn, ac mae angen help gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol arnon ni i wneud ychydig o waith ditectif.

 

Rydyn ni’n dymuno i bobl fynd i chwilio am blisg cnau cyll gwag yn eu coetiroedd lleol ac ar hyd cloddiau. Fel nifer o famaliaid bach eraill, mae’r pathew yn bwyta cnau cyll, ac yn eu hagor mewn dull unigryw sy’n gadael olion penodol.

 

Gall gwirfoddolwyr ddysgu sut i adnabod y cnau sydd wedi eu hagor gan y pathew gydag ychydig o brofiad. 

Mouse

Cymryd rhan

Cynllun a gynhelir ar y cyd rhwng 14 awdurdod lleol yn Ne Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yw arolwg pathewod De Cymru.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynhyrchu pecyn gwybodaeth am yr arolwg, sy’n darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar wirfoddolwyr i gymryd rhan yn yr arolwg. Yn ogystal, cynhyrchwyd ail becyn arolwg sy’n rhoi cyngor ar sut i drefnu helfa gnau fel rhan o ddigwyddiad ysgol neu gymuned.

 

Digwyddiad i ysgolion a gynhelir ym Mharc Gwledig Porthceri yw cynllun creu lle i fywyd gwyllt. Cynhelir digwyddiadau hyfforddiant eraill ledled De Cymru hefyd.