Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Yn dilyn sawl blwyddyn o reoli ardaloedd glaswelltog, mae niferoedd rhywogaethau’r blodau gwyllt ysblennydd yma wedi cynyddu cryn dipyn. Y blodyn mwyaf trawiadol yw’r tegeirian llydanwyrdd mawr, sydd wedi ffynnu. Ddeng mlynedd yn ôl, gellid cyfrif llond dwrn ohonynt, ond llynedd, roedd bron i dri chant o bigau’r blodau i’w gweld.
Mae’r tegeirian llydanwyrdd mawr yn flodyn tal (hyd at 1.5 troedfedd / 457mm) ag arno nifer o flodau lliw hufen tua modfedd / 5mm o led ar un bonyn. Mae siâp y blodyn yn debyg i bilipala bach â chynffon ddwbl a’i adenydd ar led. Mae peillio’n broses arbenigol iawn, ac mae gofyn i gleren fach daro’i chefn ar sachaid o baill wrth iddi chwilio am neithdar yng nghanol y blodyn.