Yn y Fro, rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth o gynefinoedd glaswelltir gan gynnwys Glaswelltir Calchaidd sy’n gynefin cymharol anghyffredin yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol. Mae'n gysylltiedig â chalchfaen carbonifferaidd, sy'n bresennol ar hyd y clogwyni arfordirol. Mae'r ardaloedd hyn yn enwog am eu fflora calchfaen cyfoethog, sy'n cynnwys sawl rhywogaeth sy'n brin yn genedlaethol.
Mae pryfed peillio a phlanhigion sy’n cael eu peillio gan bryfed wedi cyd-esblygu dros 100 miliwn o flynyddoedd gan arwain at set gymhleth o ryngweithiadau sy’n hybu peillio a goroesiad. Mae rhai pryfed yn letyol-benodol sy'n golygu eu bod yn dibynnu ar rywogaethau planhigion penodol i gwblhau eu cylch bywyd. Gall y pryfed hyn hefyd fod wedi addasu'n arbennig i fwydo ar rai planhigion gan eu gwneud yn bryfed peillio pwysig. Mae’r rhyngweithiadau arbenigol hyn rhwng pryfed a phlanhigion yn amlygu pam ei bod yn bwysig cael amrywiaeth o bryfed peillio. Er enghraifft, mae'n well gan y Wenynen Durio Moron chwilota am flodau â strwythur agored fel moronen y maes ac efwr. Dysgwch fwy am boblogaethau'r Gwenyn Turio Moron yn y Fro.
Y dull mwyaf cynaliadwy o reoli glaswelltiroedd blodau gwyllt yw trwy adael i'r storfa hadau brodorol ffynnu. Efallai y gwelwch degeirian neu 200 ohonynt yn ymddangos ar ymyl eich ffordd leol fel y gwnaethom ar Ffordd Osgoi Ffwl-y-mwn.