Our Vision
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi nifer o gyfleoedd y maent am eu datblygu mewn partneriaeth â busnesau yn y sector preifat a sefydliadau trydydd sector. Mae’r cyfleoedd i weithio gyda ni a darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom fel a ganlyn:
- Ystod o weithgareddau awyr agored yn y Parciau i gynnwys y llyn a’r môr
- Amrywiaeth o wasanaethau lletygarwch a lleoliadau
- I greu a datblygu ein cynnig siopau ar gyfer ein hymwelwyr
- I gynnig ystod o ddigwyddiadau hamdden
- I gynhyrchu amserlen ddigwyddiadau flynyddol wedi ei chynllunio yn unol â phroffil ein hymwelwyr
Mae ein cynlluniau yn y dyfodol yn cynnwys
- Gweithio gydag ystod o weithredwyr gweithgareddau awyr agored addas
- Cynyddu a datblygu ein dewis i ymwelwyr o ran arlwyo
- Hyrwyddo ein lleoliadau a’n hadnoddau unigryw i fwy o gwmnïau teledu a ffilm
- I adeiladu ein proffil cyhoeddus ymhellach gan weithio gyda phartneriaid a defnyddio cefnogaeth tîm twristiaeth y Cyngor
Rydym wedi dechrau datblygu a thrawsnewid y parciau gyda buddsoddiadau a wnaed gan y cyngor a phartneriaid yn y sector preifat. Rydym yn moderneiddio’r parciau i ateb anghenion a disgwyliadau ein hymwelwyr presennol a rhai’r dyfodol.
Mae dros 350,000 o ymwelwyr blynyddol gennym ar hyn o bryd sy’n defnyddio ein Parciau Gwledig i fwynhau y profiad unigryw y maent yn ei gynnig. Gyda chynlluniau’r dyfodol yn eu lle ynghyd â chefnogaeth ein tîm twristiaeth, disgwyliwn weld dros 500,000 o ymwelwyr yn y dyfodol. Rydym nawr yn addasu i newid yn anghenion ein cwsmeriaid lle dymunant aros yn hirach, ymweld yn amlach a gwario mwy o arian ar brofiadau newydd a gweithgareddau arbenigol.
Cynulleidfa bresennol
- Teuluoedd lleol
- Ymwelwyr o Ddinas-ranbarth Caerdydd
- Ymwelwyr addysg, Ewropeaidd, lleol a chenedlaethol
- Defnyddwyr hamdden cyffredinol, cerddwyr, cerddwyr cŵn, chwarae
- Ymwelwyr digwyddiadau
- Ymwelwyr teithiau grŵp
- Ymwelwyr arbenigol – gwylwyr adar, teithiau tywys
- Beicwyr
I drafod y llu o gyfleoedd masnachol sydd ar gael cysylltwch â Steve Pickering, yr Arweinydd Tîm Cefn Gwlad yn