Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae 8 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yn ardaloedd awdurdod y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ym Mro Morgannwg.
Dyma'r dyfroedd ymdrochi dynodedig yn y Fro;
Traeth Penarth
Bae Jackson
Bae Whitmore
Bae’r Tŵr Gwylio (Y Barri )
Y Cnap
Col-Huw (Llantwit Major)
Bae Dwnrhefn(Southerndown)
Aberogwr
Mae ansawdd dŵr dyfroedd ymdrochi yng Nghymru yn cael ei oruchwylio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae'r tymor dŵr ymdrochi yn rhedeg o 15 Mai i 30 Medi bob blwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwn bydd CNC yn profi'r dŵr ar draethau dynodedig fel mater o drefn i fonitro ansawdd dyfroedd ymdrochi.
Ceir mwy o wybodaeth am ein traethau dynodedig, yn cynnwys canlyniadau samplau dŵr yma.
Ceir gwybodaeth am gyrraedd ein traethau a'r cyfleusterau sydd ar gael yma.
Gellir dod o hyd i wybodaeth ac arweiniad ar ansawdd dŵr ar gyfer prif gyflenwad a chyflenwadau dŵr preifat, pyllau nofio, dyfroedd ymdrochi yma. Gallwch hefyd gael gwybod am leihau'r risg o salwch wrth nofio mewn dyfroedd agored.