Cost of Living Support Icon

Ardaloedd Masnachu Awyr Agored ar gyfer Bwyd, Diod a Manwerthu

Ardaloedd Masnachu ar gyfer Bwyd a Diod a Manwerthu gan gynnwys byrddau hysbysebu o 1 Gorffennaf 2021

 

Mae'r polisi newydd yn galluogi'r Cyngor i gefnogi ac annog y gwaith rheoledig o ddarparu cyfarpar ar ei asedau priffyrdd, gan yr ystyrir bod hyn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at drefi a chyrchfannau drwy ychwanegu bwrlwm, lliw, bywyd a diddordeb i'r strydlun. 

 

Mae'r Cyngor hefyd o'r farn y gall hyn helpu i ddefnyddio mannau cyhoeddus yn y ffordd orau bosibl, helpu busnesau lleol yn ogystal ag ychwanegu at y cyfleusterau a gaiff eu cynnig i bobl sy'n ymweld â Bro Morgannwg, neu’n byw neu’n gweithio yma.   Un ychwanegiad o'r fath fu cyflwyno Parciau Pafin gan y Cyngor ym Mhenarth.  Tra bo’r Cyngor yn asesu’r gwaith o ail-bwrpasu mannau parcio yn Barciau Pafin a’u heffaith ar fusnesau lleol, mae’r Parciau Pafin yn gynlluniau peilot o hyd. Fodd bynnag, byddant yn amodol ar yr un prosesau ymgeisio a chodi ffioedd â thrwyddedau caffi, y manylir arnynt isod.   

 

Er bod y Cyngor wrthi'n ceisio annog defnydd ar y polisi newydd hwn, mae'n bwysig bod mannau'n cael eu rheoli, i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch priodol o fewn y strydlun.  

 

Mae'n bwysig hefyd bod y droedffordd yn parhau i fod yn glir heb unrhyw beryglon i gerddwyr.   Gall rhwystrau ar y palmant ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr dall, rhannol ddall ac i bobl eraill sy’n defnyddio troedffyrdd.  Gall rhwystrau o'r fath hefyd achosi anghyfleusterau i eiddo neu fusnesau cyfagos.

 

Trwyddedau Caffi

 

Trwyddedau Caffi
Ardal Eistedd Cost
1 – 2 fwrdd gyda hyd at 8 cadair / sedd £267 y flwyddyn
3 – 4 bwrdd gyda hyd at 16 cadair / sedd £534 y flwyddyn
5 - 10 bwrdd gyda hyd at 40 cadair / sedd £1,067 y flwyddyn 
11+ o fyrddau gyda dros 40 o gadeiriau / seddi £1,601 y flwyddyn, ynghyd â £35 am bob cadair/sedd ychwanegol dros 40

Ardal fasnachu y tu allan ar gyfer gwerthu nwyddau

 

Ardal fasnachu y tu allan ar gyfer gwerthu nwyddau
 Maint Cost
 Dan 5 metr sgwâr  £267 y flwyddyn
 Dros 5 metr sgwâr  £534 y flwyddyn

 

Byrddau Hysbysebu

 

Byrddau Hysbysebu
  Eitem  Cost
Byrddau Hysbysebu  £119 yr un

Mae cais am fwrdd hysbysebu yn costio £100 yr un gydag uchafswm o ddau fwrdd hysbysebu fesul busnes. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un neu rai a ganiateir o dan y gofod masnachu allanol.

Os hoffech wneud cais am drwydded caffi, gofod masnachu y tu allan at ddibenion gwerthu nwyddau neu i gael defnyddio byrddau hysbysebu, mae angen i chi wirio eich bod yn hapus gyda thelerau'r polisi a llenwi'r ffurflen gais gan ei dychwelyd drwy e-bost neu drwy'r post at:

 

 

Cyngor Bro Morgannwg

Tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd

Depo'r Alpau

Quarry Road

Gwenfô

CF5 6AA

 

 


Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am un o'r trwyddedau, bydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor ac os caiff ei gymeradwyo bydd y tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd yn cytuno ar faint y lle a ganiateir i chi a bydd trwydded yn cael ei rhoi am 12 mis o'r dyddiad y telir y ffi. Os caiff ei gymeradwyo, dim ond ar y briffordd o fewn yr ardal drwyddedig y cytunwyd arni y gellir gosod unrhyw rwystrau, ffensys, hysbysfyrddau, dodrefn neu gyfarpar arall a fydd yn cael eu marcio â phinnau ffordd a phaent chwistrellu gan y Cyngor neu ei gynrychiolydd dynodedig.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y trefniadau polisi newydd neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau'r cais, cysylltwch â'r Cyngor i drafod cyn gynted â phosibl. Gallwch wneud hyn naill ai trwy e-bostio, neu ysgrifennu i'r cyfeiriad uchod neu drwy ffonio 01446 700111 a gofyn am Jessica Stoker.