Cost of Living Support Icon

Arolwg barn cyhoeddus Cyngor Bro Morgannwg

Pob dwy flynedd mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal ei ymgynghoriad mwyaf cynhwysfawr - yr arolwg barn cyhoeddus.

 

Mae'r Cyngor yn comisiynu asiantaeth ymchwil farchnad annibynnol i arolygu lleiafswm o fil o drigolion y Fro i archwilio sut mae pobl y Fro'n gwerthfawrogi'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.

 

Cynhelir yr arolwg trwy ddefnyddio sampl cynrychioladol o drigolion y Fro, felly mae'n casglu'r wybodaeth fwyaf cywir i ni am farn ein trigolion ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ymateb i farn ein trigolion. Dyna pam bod uwch swyddogion ac aelodau etholedig yn cydweithio'n agos i ddatblygu cynlluniau gweithredu i ddiwallu unrhyw feysydd lle mae'r trigolion yn anfodlon ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud.

 

Addroddiad Arolwg Barn Cyhoeddus 2018 

Nodwch fod yr adroddiad hwn yn cynnwys crynodeb gweithredol.