Cost of Living Support Icon

 

Hysbysiad o Gyfarfod   IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU STATUDOL

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                  DYDD MAWRTH, 5 GORFFENNAF, 2022 AM 10.00 A.M.

 

 

Lleoliad                      CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

 

1.       Penodi Cadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

2.       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Awdurdod Trwyddedu -

3.       Caniatáu Trwydded Safle – Caffi Fredwell, Stablau Pant Wilkin, Aberthin, Y Bont-faen

[Gweld Cofnod]

 

 

Yn unol ag Adran 18(3)(a) Deddf Trwyddedu 2003, gallai’r Gwrandawiad hwn gael ei hepgor os yw’r Awdurdod Trwyddedu, yr Ymgeisydd a phawb sydd wedi cyflwyno sylw’n cytuno bod y Gwrandawiad yn ddiangen ar ôl proses Gyfryngu.  Gallai hyn ddigwydd hyd at 24 awr cyn i’r Gwrandawiad ddechrau.  Byddai felly’n syniad cysylltu â’r swyddog a enwir ar ddiwedd yr agenda i sicrhau bod y Gwrandawiad yn dal i gael ei gynnal.

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

 

29 Mehefin, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. 

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

M. Swindell (Tel: 01446 709479)

E-bost: Democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Holl Aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu:

Y Cynghorwyr M.J.G. Morgan, J.M. Norman a M.R. Wilkinson

                              

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709855.

 

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx