GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

Hysbysiad o Gyfarfod        PWYLLGOR TRWYDDEDU DIOGELWCH CYHOEDDUS

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                        DYDD MAWRTH, 12 GORFENNAF, 2022 AM 10.00 A.M.

 

Lleoliad                           CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.       Cofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Chwefror, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

          (Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Cyfreithiol –

4.       Deddf Tiroedd Comin 2006 - Cais i Gofrestru Tir yn Faes Tref neu Bentref – Tir yn The Butts, Y Bont-faen (a elwir yn Gae Criced Ysgol Ramadeg y Bont-faen gynt).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai –  

5.       Cais am Gymeradwyaeth fel Profwr Mesurydd Cerbyd Hacni Awdurdodedig - A2Z Taxi Vale of Glamorgan Ltd.

[Gweld Cofnod]

 

6.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiad Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai –  

7.       Caniatáu Trwyddedau – JW.

[Gweld Cofnod]

 

8.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

6 Gorffennaf, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir: yn yr achos cyntaf dylid ymholi

M. Swindell, Ffôn: (01446) 709479

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Holl Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu Diogelwch Cyhoeddus -

Cadeirydd: Cynghorydd P. Drake;

Is-gadeirydd: Cynghorydd J.M. Norman;

Y Cynghorwyr: G. Bruce, L. Burnett, V.P. Driscoll, R. Fisher, C.P. Franks,

E. Goodjohn, H.C. Hamilton, W.A. Hennessy, N.B. Marshallsea, M.J.G. Morgan, R. Sivagnanam, S.T. Wiliam a M.R. Wilkinson.

 

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709855.

 

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx