Cost of Living Support Icon

Enwi Strydoedd a Rhifo Tai

Gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer enwi a rhifo tai a strydoedd ym Mro Morgannwg.

 

Mae aelodau’r Cabinet, aelodau wardiau lleol ac aelodau cynghorau tref a chymuned yn ymwneud â’r broses o enwi strydoedd, sy’n cael ei gweithredu yn unol â’n proses Sicrhau Safon.

 

Rydyn ni’n ymgynghori â Chanolfan Rheoli Cyfeiriadau’r Post Brenhinol cyn pennu enwau a rhifau newydd. Unwaith mae pawb yn cytuno, ac mae’r Post Brenhinol wedi dynodi cod post, rydyn ni’n rhoi gwybod i’r:

  • Gwasanaethau cyhoeddus
  • Y gwasanaethau brys
  • Y Gofrestrfa Tir 
  • Yr Arolwg Ordnans
  • Gwasanaethau perthnasol y Cyngor

 

Nodwch: Mae’n bwysig cysylltu â ni cyn bod trigolion mewn eiddo newydd. Fydd llawer o gwmnïau ddim yn cysylltu eu gwasanaethau nac yn cytuno ar gytundebau nes ein bod ni a’r Post Brenhinol wedi cofrestru cyfeiriad.

 

I wirio a yw eiddo wedi’i gofrestru, ewch i chwiliwr cod post y Post Brenhinol. 

 

Tai Newydd 

Fel arfer, mae tai unigol wedi’u codi ar dir wedi’i fewnlenwi, gerddi mawr neu safle eiddo wedi’i ddymchwel.

 

Os yw trigfan newydd yn cael ei chodi rhwng dwy arall, mewn trefn rifo, caiff “a” ei phennu i’r adeilad i’r dde iddi fel arfer, e.e. 12a. Gellir gwneud cais i bennu enw iddi hefyd. 

 

Pan godir adeilad ar safle lle cafodd yr adeilad blaenorol ei ddymchwel, bydd yr adeilad newydd yn etifeddu’r rhif a bennwyd eisoes.

 

Eiddo wedi’i Addasu 

Pan fo eiddo’n cael ei addasu yn nifer o fflatiau neu pan fo eiddo newydd yn cael ei lunio o fewn adeilad sydd mewn bod, rhaid rhoi gwybod i ni am y newid a’i gofrestru â’r Post Brenhinol.

 

Yn achos addasu i fflatiau, rhaid nodi lleoliad mannau dosbarthu a blychau post ar gynllun i ganiatáu dosbarthu post. 

 

Enwau Tai 

Dylech chi roi gwybod i’r Cyngor am enwau tai newydd eu codi neu unrhyw newid i enwau mewn bod er mwyn iddynt gael eu mabwysiadu gan y Cyngor.

 

Gofynnwn nad yw’r enw a ddewisir yn rhy debyg i enw eiddo arall yn yr ardal gerllaw.

 

Codir tâl o £160.00 am y gwasanaeth hwn. Mae gofyn i chi dalu ymlaen llaw â siec. Dylai’r siec fod yn daladwy i ‘Cyngor Bro Morgannwg’. 

 

Anfonwch at:

Enwi a Rhifo Strydoedd

Cyngor Bro Morgannwg 

Depo’r Alpau 

Gwenfô 

CF5 6AA