Cost of Living Support Icon

Adnoddau Aelodau Llyfrgell

Caiff pob aelod o Wasanaeth Llyfrgell Bro Morgannwg fynediad am ddim i rai o brif adnoddau ymchwil y DU

Nid yw’r cronfeydd data yma ar gael i holl ddefnyddwyr y rhyngrwyd, ond fel aelod o lyfrgell Bro Morgannwg, gallwch ddefnyddio’r rhif ar eich cerdyn llyfrgell i bori rhai o’r adnoddau mwyaf dibynadwy, manwl a difyr sydd ar gael ar-lein. Gan mai Saesneg yw iaith y rhan fwyaf o’r adnoddau, dim ond y manylion a gyfieithwyd. Nodir argaeledd gwasanaethau Cymraeg pan fo’n berthnasol.

 

 

 

Mynediad drwy Gyfrifiaduron y Llyfrgell

Mae’r cronfeydd data dan danysgrifiad isod ar gael ar gyfrifiaduron y llyfrgelloedd yn unig drwy’r dolenni isod:

access to research

Access To Research 

Menter newydd sy’n cynnig mynediad i ystod eang o erthyglau ac ymchwil academaidd a gedwir mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ledled y DU.

 

Access to Research

ancestry_logo_dsAncestry 

Darganfod hanes eich teulu a chreu achres drwy chwilio cofnodion genedigaethau helaeth, data cyfrifiadau, ysgrifau coffa a mwy.

 

Ancestry

Blackwell Reference

Blackwell Reference 

Y llyfrgell ymchwil ar-lein academaidd fwyaf. Mynediad ar flaenau eich bysedd i ysgolheictod awdurdodol a chyfredol ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau. 

 

Blackwell Reference Online

findmypast

Find My Past

Gwefan hel achau sy’n hawdd i’w chwilio er mwyn olrhain hanes eich teulu. Ceir yma gofnodion genedigaethau helaeth, data cyfrifiadau, ysgrifau coffa a mwy. Yn cynnwys mynediad i gyfrifiad Cymru a Lloegr 1921. 

Find My Past

 

Ar unrhyw ddyfais electronig 

Mynediad gartref, ar y ffordd neu yn y llyfrgell. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhif eich cerdyn llyfrgell.

 

enclyclopedia

Encyclopedia Britannica

Un o’r adnoddau gwybodaeth mwyaf cyflawn a chywir yn y byd. Porwch gannoedd o filoedd o erthyglau, bywgraffiadau, fideos, delweddau a gwefannau gyda’r gwyddoniadur ar-lein. 

 

Britannica

european souces online

European Sources Online

Gwasanaeth gwybodaeth a chronfa ddata ar-lein ar weithgareddau a sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol Ewrop, a materion o bwys i ymchwilwyr, trigolion a rhanddeiliaid Ewropeaidd. 

 

European Sources Online

Gale Cengage Logo

Gale Virtual Reference Library

Cronfa ddata o wyddoniaduron, almanaciau a ffynonellau ymchwil arbenigol.

 

Gale Virtual Reference Library

go_citizen_logo-s

GoCitizen

Adnodd astudio ar-lein i ymgeiswyr prawf Bywyd yn y DU neu brawf dinasyddiaeth Brydeinig.

 

GoCitizen website

Oxford ResourcesOUP Logo.gif

Wrth fynd at adnoddau Oxfored a Who’s Who o bell, e.e. o'ch teclyn eich hun neu o gartref, bydd angen i chi deipio'r llythrennau "vg" ac yna rif eich cerdyn llyfrgell, e.e. vg30191234.

 

Very Short Introductions Logo

Oxford Very Short Introductions

Mae VSI ar-lein yn ffordd wych o ddysgu llawer am bwnc newydd yn gyflym. Gallwch chwilio drwy nifer o deitlau ar yr un pryd, ystyried opsiynau dysgu, cychwyn ar bwnc newydd neu adolygu pwnc penodol.

  

Mae’r pynciau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys Prydain yn yr 20fed Ganrif, Gwleidyddiaeth Prydain, Cyffuriau, Celf Gyfoes, Hanes, Rheoli, Mathemateg, Maeth, Y Ddaear, y Planedau a chasgliad llenyddiaeth. 

 

VSI Online

Oxford English Dictionary Logo

Oxford English Dictionary

Ystyrir yr Oxford English Dictionary (OED) yn helaeth fel y prif awdurdod ar yr iaith Saesneg. Does dim canllaw gwell ar gael i ystyr, hanes ac ynganiad 600,000 o eiriau Saesneg - o'r gorffennol a'r presennol o bedwar ban byd.

 

OED Online  

Oxford Bibliographies

Oxford Bibliographies

Yn cynnwys canllawiau ymchwil awdurdodol ac unigryw i Lenyddiaeth Fictoraidd Brydeinig a Gwyddelig.

 

Oxford Bibliographies

oxford dictionaries logo

Oxford Language Dictionaries Online

Mae OLDO yn rhoi argymhellion gan arbenigwyr ynghylch gramadeg, sillafu, a defnydd geiriau. Mae ynddo hefyd ganllawiau i’r iaith ysgrifenedig a geiriaduron arbenigol ar gyfer awduron, golygyddion prawfddarllenwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.  Gellir cael mynediad, drwyddo, at eiriaduron dwyieithog mewn Arabeg, Tsieineeg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Eidaleg, Almaeneg a Rwsieg. Mae ynddo hefyd ddeunyddiau dysgu iaith unigryw.

 

OLDO English

 

OLDO Bilingual Dictionaries

oxford reference logo

Oxford Reference Online

Mynediad i dros 100 o gyfeirlyfrau gan wasg Oxford University Press. I gyrraedd ORO gartref, ewch i’r wefan a theipio’r llythrennau ‘vg’, ac yna’r rhifau a welir o dan y bar-cod ar eich cerdyn llyfrgell.

 

ORO 

Whos Who

Who's Who and Who Was Who

Ceir yma dros 33,000 o fywgraffidau cryno sy’n cael eu diweddaru’n gyson, o unigolion byw, nodedig a dylanwadol o bob cefndir. 

 

Who's Who

grove art icon

Grove Art Online

Y gwyddoniadur celf ysgolheigaidd mwyaf blaenllaw, sy’n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd ac yn cwmpasu celf a phensaernïaeth fyd-eang o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw.

Mae’n cynnwys erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid a gyfrannwyd gan bron 7,000 o ysgolheigion o bob cwr o'r byd, ynghyd â delweddau, llyfryddiaethau, a chysylltiadau ag adnoddau ychwanegol.

Grove Art Online

grove music icon

Grove Music Online

Yr adnodd gorau ar gyfer ymchwil gerddoriaeth gyda dros 52,000 o erthyglau wedi'u hysgrifennu gan bron 9,000 o ysgolheigion yn olrhain hanes, theori a diwylliannau cerddoriaeth amrywiol ledled y byd.

Yn seiliedig ar waith a gyhoeddwyd gyntaf ym 1879 ac a ddiweddarwyd yn aml, mae Grove wedi cael ei gyhoeddi'n barhaus ers dros ganrif ac mae bellach yn cyhoeddi cannoedd o erthyglau newydd a diwygiadau i erthyglau bob blwyddyn.

Grove Music Online

what everyone needs to know icon

What Everyone Needs to Know

Wedi'i ysgrifennu gan arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd penodol, mae pob cyfrol yng nghyfres enwog Oxford, What Everyone Needs to Know®, yn cynnig cynlyfr cytbwys ac awdurdodol am faterion cyfoes cymhleth a gwledydd. Mae pynciau poblogaidd yn cynnwys Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Polisïau Amgylcheddol, Hanes y Byd, Gwyddorau a Mathemateg, a Chrefydd ac Ysbrydolrwydd. Mae'r fformat holi ac ateb cryno yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr coleg, gweithwyr proffesiynol a phobl chwilfrydig fel ei gilydd.

What Everyone Needs to Know

ODictionary National Biography -large-logo

Oxford Dictionary of National Biography

Cofnod cenedlaethol o’r gwŷr a’r gwragedd sydd wedi chwarae rôl ganolog yn hanes a diwylliant Prydain, ledled y byd, yw'r ODNB, ac mae'n cynnwys gwybodaeth o Oes y Rhufeiniaid tan yr 21ain ganrif. Mae’n cynnwys bywgraffiadau cryno, wedi ei diweddaru, wedi eu hysgrifennu gan awduron sy’n arbenigo yn eu maes. Mae golygyddion o Brifysgol Rhydychen yn goruchwylio cofnodion y Geiriadur, ac fe’i cyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen.

 

ODNB

rocks back pages

Rock's Back Pages

Archif penigamp o newyddiaduraeth cerddoriaeth gyfoes. Ceir yma dros 30,000 o erthyglau ar artistiaid o Aaliyah i ZZ Top ym mhob maes o roc i hip-hop gan newyddiadurwyr cerdd gorau’r hanner canrif diwethaf. Ar eich dyfais eich hun, teipiwch y llythrennau ‘vg’, ac yna’r rhif aelodaeth a welir ar eich cerdyn llyfrgell.

 

Rock's Back Pages

theory  test pro logo

Theory Test Pro

Efelychiad hynod realistig o brawf gyrru theori’r DU yng nghategori pob cerbyd. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim i holl aelodau llyfrgelloedd Bro Morgannwg.

 

Theory Test Pro

National Library Wales Logo
Gwefan ddwyieithog o adnoddau electronig sy’n amrywio o gylchgronau academaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd. Gall defnyddwyr llyfrgelloedd Bro Morgannwg gofrestru ar-lein (yn Saesneg yn unig) i ddefnyddio’r adnoddau yma cyhyd â’ch bod yn byw yng Nghymru a bod gennych god post Cymreig.  

 

 

 

Papurau newydd

Mae Llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cynnig mynediad at rifynnau hanesyddol o bapurau newyddion cenedlaethol a lleol.

 

Mynediad gartref, ar y ffordd neu yn y llyfrgell. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhif eich cerdyn llyfrgell.

Newsbank

Newsbank

Archwiliwch safbwyntiau amrywiol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am bynciau, pobl a digwyddiadau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Ymchwiliwch i feysydd fel busnes, iechyd, addysg, yr amgylchedd, materion gwleidyddol, a chymdeithasol a mwy. Yn cynnwys amrywiaeth eang o ffynonellau newyddion creadadwy, wedi'u fetio o fwy na 200 o wledydd, gan gynnwys fersiynau testun llawn o fwy na 50 o ffynonellau Cymreig a rhifynnau delwedd lliw llawn o The Times a The Western Mail! Ar gael o bell 24/7 ar unrhyw ddyfais gyda'ch cerdyn llyfrgell.

 

 Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur yn y llyfrgell gallwch fynd i wefan Newsbank.

 

I gyrchu UK Newsbank o bell, e.e. o gartref, ewch i wefan Newsbank a rhowch rif eich cerdyn llyfrgell.

 

Times Digital Archive

Times Digital Archive 1785-2019

Mae Archif Digidol y Times yn eich galluogi i weld tudalennau wedi'u sganio o'r Times o 1785 hyd at y presennol bron.

 

I gael mynediad i wefan archif The Times gartref, bydd arnoch angen rhif eich cerdyn llyfrgell. 

British Library 250x250

19th Century British Library Newspapers

Mae’r wefan hon yn cynnig fersiynau digidol o bapurau newydd Prydeinig, cenedlaethol, lleol a rhanbarthol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae arni 48 o deitlau, a chyfanswm o oddeutu 2.2m o dudalennau sy’n adlewyrchu datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod. Rhoddwyd sylw arbennig i bapurau newydd oedd yn allweddol wrth arwain symudiadau gwleidyddol neu gymdeithasol arwyddocaol, megis Diwygio, Siartiaeth a Hunanlywodraeth. Mae’r papurau ceiniog a dargedwyd at y dosbarth gweithiol a chlerigol hefyd yn rhan o’r casgliad. Mae’n cynnwys tri phapur Cymraeg: Y Genedl, Y Goleuad a Baner Cymru. Mae hefyd yn cynnwys y Western Mail o 1 Mai 1869 – 31 Rhagfyr 1900. Yn y cyfnod hwn yr adeiladwyd Dociau’r Barri, a gallwch ddarllen adroddiadau gwreiddiol ymgyrch y Western Mail oedd yn gwrthwynebu’r cynllun. 

ukpress online logo

UKPressOnline

Mae UKPressOnline yn caniatáu i chi ddarllen a lawrlwytho tudalennau a rhifynnau chwiliadwy fel y’u cyhoeddwyd o bapurau’r Daily Express (o 1900 ymlaen). Mae hefyd yn cynnwys y Sunday Express a’r Daily Star (2000 hyd heddiw), a blynyddoedd amrywiol o’r Church Times, The Watchman, Daily Worker a’r Morning Star. Yn ogystal, ceir yma archif o’r Ail Ryfel Byd sy’n cynnwys rhifynnau nifer o bapurau rhwng 1933 ac 1945.  

BNA Logo

Archif Papurau Newydd Gwledydd Prydain (British Newspaper Archive)

Mae Archif Papurau Newydd Gwledydd Prydain, sy’n cynnig mynediad ar-lein i filiynau o dudalennau o bapurau newydd o wledydd Prydain ac Iwerddon o 1703-2003, yn adnodd gwych i bawb sydd â diddordeb mewn hanes, ac i haneswyr teuluol a lleol yn benodol.

Mae papurau newydd o gasgliad enfawr Llyfrgell Prydain yn cael eu sganio bob dydd i gynhyrchu copïau digidol y gellir eu chwilio o unrhyw le yn y byd. Gall defnyddwyr llyfrgell chwilio drwy gannoedd o filiynau o erthyglau yn ôl gair allweddol, enw, lleoliad, dyddiad neu deitl a gweld y canlyniadau'n ymddangos o flaen eu llygaid.

 

Tra eich bod wedi mewngofnodi i gyfrifiadur yn un o lyfrgelloedd Bro Morgannwg, bydd gennych fynediad digyfyngiad i Archif Papurau Newydd Gwledydd Prydain. I weld tudalennau o’r archif, bydd angen i chi gofrestru (am ddim) a mewngofnodi i’r gwasanaeth. Gallwch gadw erthyglau rydych yn eu gweld ar eich tudalen Wedi Cadw a gallwch hefyd greu ffolderi ar gyfer erthyglau gwahanol a’u categoreiddio sut bynnag. Gallwch hefyd ychwanegu nodiadau i unrhyw rai o’r erthyglau rydych wedi eu cadw. 

Ar gael ar cyfrifiaduron y llyfrgell yn unig.

National Library Wales Logo

Welsh Newspapers Online

Adnodd am ddim gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yw Papurau Newydd Cymru Ar-lein lle gallwch ddarganfod milynau o erthyglau o gasgliad cynhwysfawr y llyfrgell o bapurau newydd hanesyddol.