Yr Wythnos Gyda Rob
29 Medi 2023
Annwyl gydweithwyr,
Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant yw hi yr wythnos hon. Mae’n wythnos arbennig i ddathlu cynhwysiant a gweithredu i greu gweithleoedd cynhwysol. Y thema eleni yw 'Gweithredu i Gael Effaith'. Mae trefnwyr yr ymgyrch yn dweud bod hyn yn alwad i bawb, o arweinwyr i dimau ac unigolion, weithredu ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni yma yn y Fro yn ymateb iddi.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo ers amser hir i ddileu gwahaniaethu ac annog amrywiaeth ymhlith ein gweithlu. Ein nod bob amser yw cael gweithlu sy’n wirioneddol gynrychioliadol o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a bod pob cyflogai’n teimlo ei fod yn cael ei barchu ac yn gallu rhoi o’i orau.
Fel cyflogwr, rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bawb. Mae gan y Cyngor weithlu amrywiol i raddau helaeth oherwydd nid ydym yn gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol (LHDTCRh+). Rwy'n falch o’r ffaith ein bod ni bob amser wedi symud yn gyflym yn y maes hwn. Yn ystod fy nghyfnod fel y Prif Weithredwr rydym wedi cael ein cydnabod fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, sefydliad sy'n Hyderus o ran Anabledd, ac wedi llofnodi Addewid Cyflogwr Amser i Newid.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi adeiladu ar hyn drwy sefydlu tri rhwydwaith staff ffyniannus. Rhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDTC+ yw GLAM sy'n gweithio i gael effaith gadarnhaol ar ran cydweithwyr LHDTC+ yn y gweithle. Mae’r Rhwydwaith Amrywiol ar gyfer cydweithwyr a chynghreiriaid sydd am gefnogi cenhadaeth cydraddoldeb hiliol y Cyngor. Mae’r Rhwydwaith Anabledd yn cynnwys cydweithwyr sydd â phrofiad o anabledd, afiechyd meddwl a niwroamrywiaeth, yn ogystal â chynghreiriaid, i helpu i sefydlu gweithle sy'n darparu'n well ar gyfer eu hanghenion er mwyn creu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu cynnwys a'u cefnogi.
Yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn yn falch iawn o glywed gan Elyn Hannah, ein Swyddog Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg, ein bod wedi cael ein cydnabod y mis hwn fel Cyngor sydd wedi gwneud cynnydd rhagorol yn ein taith gynhwysiant yng nghyfarfod blynyddol y Rhwydwaith Cyflogwyr Cynhwysol a dim ond un enghraifft o’n llwyddiant yw twf ein rhwydweithiau.
Mae 'Gweithredu i Gael Effaith' yn neges bwerus ac yn un sy'n ein hatgoffa ni i gyd fod gan bob un ohonom trwy ein gweithredoedd y pŵer i gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr wedi’u hymyleiddio a dinasyddion y Fro. Yn hyn o beth, mae pob un o'n tri rhwydwaith yn gwneud gwaith gwych i eirioli ar ran eraill a sicrhau bod materion sy'n effeithio nid yn unig ar ein staff ein hunain ond y cymunedau ehangach rydym yn eu gwasanaethu yn cael y gwelededd a'r sylw y maent yn eu haeddu. Hoffwn ddiolch i bob aelod o'n rhwydweithiau am yr amser a'r ymdrech y maent wedi'u rhoi i gefnogi eraill, ac yn arbennig cadeiryddion a chyd-gadeiryddion y rhwydweithiau Martine, Laura, Lee, Carl, a Colin.

Mae arweinwyr ein rhwydweithiau hefyd yn awyddus iawn i rannu mwy am eu gwaith a recriwtio aelodau newydd. I ddod ag Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant i ben, mae sesiwn holi ac ateb rithwir yn cael ei chynnal ar Teams ddydd Mawrth (3 Hydref). Bydd cynrychiolwyr pob un yno i drafod pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y rhwydweithiau yn y sefydliad. Bydd Tom Bowring, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, hefyd yn ymuno â'r panel i ateb cwestiynau ar gynwysoldeb yn y gweithle.
Byddwn yn annog pob cydweithiwr i ymuno â'r sesiwn yr wythnos nesaf a hefyd i roi o’i amser i ddarllen rhywfaint o’r deunydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon ar StaffNet. Mae cymaint o ffyrdd y gallwch wneud gwahaniaeth a'n helpu i ddod yn gyflogwr hyd yn oed yn fwy cynhwysol.
Ffordd arall rydym yn ceisio cefnogi staff yw annog a chefnogi teithio llesol i'r gwaith. Diwrnod Teithio Llesol Cymru oedd hi ddydd Iau a rhoddodd hynny gyfle i ni atgoffa cydweithiwr o'r hyn sydd ar gael i helpu pobl i wneud teithiau mwy cynaliadwy i'r gwaith ac yn ôl.
Fel Cyngor, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnig gostyngiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus i staff, creu map rhyngweithiol sy'n dangos y seilwaith cerdded a beicio yn y Fro, cynnig cynllun beicio i'r gwaith i'r holl staff, cynyddu argaeledd cynadledda tele-fideo, cyflwyno cerbydau allyriadau isel iawn fel rhan o'n fflyd o geir pwll, gwella’r cyfleusterau storio beiciau yn ein hadeiladau, a gosod cawodydd i'r staff eu defnyddio.
Mae hyn i gyd, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth ond rwy'n cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud bob amser. Yn ystod y misoedd nesaf bydd mwy o gyfleoedd i gydweithwyr gyfrannu at y rhaglen Eich Lle i uwchraddio ein swyddfeydd a byddwn yn annog unrhyw un sydd â meddyliau am sut y gallwn alluogi trefniadau gweithio sydd hyd yn oed yn fwy cynaliadwy i rannu ei farn.

Os ydych yn byw yng Nghymru, wedyn mae’n sicr mai teithio mewn car yw’r dull teithio rydych wedi clywed mwyaf amdano yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn ogystal â gweithredu'r terfyn cyflymder 20mya newydd. Er mai mater i Lywodraeth Cymru yw'r ddeddfwriaeth, wrth gwrs, mae gan y Cyngor, fel cangen y llywodraeth sy'n gyfrifol am briffyrdd cyhoeddus, rôl wrth weithredu'r newid. Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, ar Wales Today neithiwr yn trafod agweddau ar hyn yn ogystal â'i barn ei hun ar y gyfraith newydd.
Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan ein tîm Priffyrdd i gasglu a chyflenwi data i Lywodraeth Cymru, rheoli'r broses ar gyfer eithriadau, ac yn fwy diweddar cyflwyno arwyddion a marciau ffordd newydd i sicrhau bod defnyddwyr y ffordd yn ymwybodol o'r newidiadau ac yn gallu teithio'n ddiogel yn unol â nhw. Diolch yn fawr iawn i bob un o'r cydweithwyr hynny a chwaraeodd ran yn y gwaith o alluogi newid sylweddol i'r tir cyhoeddus yng Nghymru.
Mae sylwebaeth ddiddiwedd yn cael ei rhannu ar-lein am rinweddau'r terfyn cyflymder newydd. Yr hyn sydd y tu hwnt i ddadl yn fy marn i yw bod y newid yn un sy'n cyflwyno nifer o fanteision iechyd y cyhoedd gan gynnwys bod o fudd i nifer o ddefnyddwyr gwahanol y ffordd - nid gyrwyr ceir yn unig, ond cerddwyr a beicwyr ac yn un sy'n ein helpu ni fel Cyngor i gyflawni ein nod o adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd cydweithwyr o'r tîm iechyd y cyhoedd lleol i nodi eu barn ar y canlyniadau y dylem ddisgwyl eu gweld o derfyn cyflymder diofyn is. Y rhain oedd llai o anafiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd, oherwydd y cyflymder effaith is; mwy o gyfle i bobl gerdded a beicio ac amgylchedd mwy diogel i bobl ag anableddau; gwella ansawdd aer; llai o lygredd sŵn; a llai o anghydraddoldebau iechyd. Mae'r rhain i gyd yn swnio'n gadarnhaol iawn i mi.
Fel gydag unrhyw newid dros y blynyddoedd - y gofyniad i ddefnyddio gwregysau diogelwch, cyfyngiadau ar ysmygu dan do, taliadau am fagiau plastig - mae bob amser gwrthwynebwyr lleisiol ar y cychwyn. Rwy'n gwybod bod llawer o gydweithwyr yn dod ar draws y safbwyntiau hyn trwy eu gwaith a hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad parhaus i gadw cymunedau'n ddiogel.

Yn olaf, gobeithio y bydd y rhan fwyaf ohonoch eisoes wedi gweld bod cynllun gwirfoddoli newydd y Cyngor wedi'i lansio yr wythnos hon. Gall y rhan fwyaf o gydweithwyr nawr ymrwymo un diwrnod calendr y flwyddyn i wirfoddoli ar gyfer achos sy'n helpu i gefnogi cymunedau lleol yma ym Mro Morgannwg.
Yn ogystal â helpu eraill, mae gwirfoddoli'n cynnig cyfle i ddysgu sgiliau newydd, meithrin dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a datblygu perthnasau cryfach, nid yn unig â chymunedau ledled y Fro ond hefyd gyda'ch tîm a chydweithwyr eraill.
Mae rhai awgrymiadau ar sut y gallwch wirfoddoli ar StaffNet+ a rhannwch gyda mi a'n tîm Cyfathrebu yr hyn rydych chi a'ch timau yn ei wneud i helpu eraill fel y gallwn annog hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan.
Diolch fel bob amser i bawb am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch o galon.
Rob.