Diwrnod Teithio Llesol Cymru
Bydd dydd Iau 28 Medi yn nodi diwrnod Teithio Llesol Cymru, cyfle i fusnesau a sefydliadau arddangos sut maen nhw’n helpu pobl i wneud teithiau cynaliadwy.
Ledled Cymru mae 60 o brif sefydliadau wedi cytuno i un o’r Siarteri Teithio Llesol.
Fel awdurdod lleol, rydym wedi ymrwymo eleni i fwrw ymlaen â'r Siarter Teithio Llesol Lefel 2 ar ôl cwblhau'r Siarter Lefel 1.
Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i gyfres o gamau i helpu staff ac ymwelwyr i'n safleoedd gerdded, feicio ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mwy er mwyn helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol, lleihau llygredd aer a thorri allyriadau carbon. Mae siarteri yn annog gweithio hyblyg a newid i gerbydau trydan hefyd.
Mae rhai enghreifftiau o'r camau rydym wedi'u cymryd yn cynnwys:
-
darparu gostyngiadau pris i staff ar drafnidiaeth gyhoeddus
-
creu map rhyngweithiol sy'n dangos llwybrau cerdded a beicio yn y Fro
-
cynnig cynllun beicio i'r gwaith i'r holl staff
-
cynyddu argaeledd cynadledda tele-fideo
-
cyflwyno cerbydau allyriadau isel iawn fel rhan o'n fflyd ceir pwll
-
gosod storfa beiciau newydd a gwella'r chawodydd i staff eu defnyddio
Ar ddiwrnod Teithio Llesol Cymru, rydym ni'n rhannu rhai o’r mentrau a roddwyd ar waith i gefnogi unigolion i wneud teithiau glanach ac iachach.
Rhannwch sut rydych chi’n teithio i’r gwaith trwy gerdded, beicio, teithio ar fws neu ar drên ar ddydd Iau 28 Medi trwy ddefnyddio’r hashnod #diwrnodteithiollesolcymru a gweld yr hyn y mae unigolion eraill yn ei wneud hefyd!
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud i ddiwallu ymrwymiadau’r Siarter gweler Siartr Teithio Llesol Lefel 2.