Staffnet+ >
Rydym yn dathlu Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2023
Rydym yn dathlu Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2023: 25 Medi – 1 Hydref
Mae Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant (WGC) yn cychwyn ddydd Llun nesaf, 25 Medi. Mae WGC yn wythnos arbennig i ddathlu cynhwysiant a gweithredu i greu gweithleoedd cynhwysol.
Y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2023 yw 'Gweithredu a Chael Effaith' – galwad i bawb yn y sefydliad weithredu, o arweinwyr i dimau ac unigolion.
Mae 'Gweithredu a Chael Effaith' yn neges bwerus sy'n ceisio annog sefydliadau ac unigolion i feddwl am ba gamau y gallant eu cymryd a pha effaith gadarnhaol y gallai'r camau hyn eu cael ar gydweithwyr sydd wedi’u hymyleiddio.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Rydym am i chi fod yn rhan o’n gwaith cynhwysiant. Ffordd wych o wneud hyn yw drwy ymuno a chymryd rhan yn un o'n rhwydweithiau staff.
Ar hyn o bryd mae tri grŵp rhwydwaith staff: GLAM, y Rhwydwaith Amrywiol a'r Rhwydwaith Anabledd. Drwy gydol Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant eleni, byddwn yn dathlu ac yn amlygu’r gwaith y mae'r grwpiau hyn yn ei wneud i dynnu sylw at amrywiaeth a chefnogi cynwysoldeb yn y gweithle.
GLAM
Rhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDTC+ yw GLAM sy'n gweithio i gael effaith gadarnhaol ar ran cydweithwyr LHDTC+ yn y gweithle. Nod GLAM yw codi ymwybyddiaeth a gwelededd cyffredinol o'i waith ac mae'n cynnig amgylchedd cymdeithasol a chefnogol i bawb.

Y Rhwydwaith Amrywiol
Mae’r Rhwydwaith Amrywiol ar gyfer cydweithwyr a chynghreiriaid sydd am gefnogi cenhadaeth y Cyngor ar gyfer cydraddoldeb hil. Mae’r Rhwydwaith Amrywiol yn dathlu amrywiaeth ac yn gweithio i greu effaith gadarnhaol ar gymunedau Duon, Asiaidd a Mwyafrif Byd-eang yn y gweithle.

Y Rhwydwaith Anabledd
Mae’r Rhwydwaith Anabledd yn cynnwys cydweithwyr sydd â phrofiad o anabledd, afiechyd meddwl a niwroamrywiaeth, yn ogystal â chynghreiriaid, i helpu i sefydlu gweithle sy'n darparu'n well ar gyfer eu hanghenion er mwyn creu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu cynnwys a'u cefnogi.
Sesiwn Holi Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant gyda Rhwydweithiau Gweithwyr: Dydd Mawrth 3 Hydref
I gloi Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant, bydd y tîm Dysgu a Datblygu Sefydliadol yn cynnal sesiwn holi ac ateb rithwir dros Teams ddydd Mawrth Hydref 3 rhwng 2.30pm a 3.30pm.
Dyma eich cyfle i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bobl y tu ôl i'r rhwydweithiau hyn. Bydd arweinwyr y Rhwydwaith Anabledd, y Rhwydwaith Amrywiol a GLAM, yn ogystal â'r Hyrwyddwyr Lles, yn dod at ei gilydd i arddangos eu rhwydweithiau, i drafod pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y rhwydweithiau yn y sefydliad.
Bydd Tom Bowring, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, hefyd yn ymuno â'r panel i ateb eich cwestiynau ar gynwysoldeb yn y gweithle.
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma:
Sesiwn Holi Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant
Gallwch gyflwyno cwestiynau cyn y digwyddiad yma (bydd eich cwestiynau yn ddienw):
Cyflwyno Cwestiwn