Mae’r cynllun gwirfoddoli i weithwyr wedi cyrraedd!

O fis Medi ymlaen, gall cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor ymrwymo un diwrnod calendr y flwyddyn (pro-rata ar gyfer staff rhan amser) i wirfoddoli i achos o'u dewis, ar yr amod ei fod yn cyfrannu at ein cymuned leol.

Mae gwirfoddoli yn ffordd o gyfrannu'n weithredol at les eich cymuned a'ch cymdeithas gyfan.  Gall roi cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd neu ddatblygu rhai sydd gennych eisoes. Mae hefyd yn gyfle i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu rhai yn eich cymuned ehangach.

Unwaith y byddwch wedi trafod gyda'ch rheolwr, gallwch ofyn am ddiwrnod gwirfoddoli trwy Oracle, yn yr un modd ag y byddwch yn trefnu'ch gwyliau blynyddol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch dreulio eich diwrnod.

  • Os ydych chi'n gyfarwydd ag elusen leol neu achos a fyddai'n elwa o'ch help, gallwch wneud eich trefniadau eich hun i'w cefnogi am ddiwrnod
  • Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â'n ffrindiau yn GGM sy'n edrych ymlaen at ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli i'n cydweithwyr sy'n cyd-fynd â'u diddordebau a'u gwerthoedd (cyswllt engage@bromorgannwg.gov.uk)
  • Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal 4 digwyddiad mawr y flwyddyn a fydd yn cyd-fynd ag amcanion yn ein Cynllun Cyflawni Blynyddol gan gynnwys Prosiect Sero a'r Argyfwng Costau Byw

Ein digwyddiadau gwirfoddoli 2023!

Coetir Knock-Man-Down

28th Medi

bloom event picture

Byddwn yn ymuno â'n cydweithwyr o Barc Gwledig Porthceri ac yn treulio'r bore yn helpu gyda rheoli'r cloddiau briallu a blodau gwyllt.  Bydd y diwrnod yn cynnwys rhaca'r cloddiau coetir wedi'u torri a'u rhoi mewn bagiau. Bydd yr hyn a gasglwn yn cael ei ddefnyddio i greu pentyrrau cynefin yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  Ar ôl cinio bydd cyfle i helpu i gasglu sbwriel o'r ardaloedd cyfagos.

Cliciwch yma i drefnu eich lle!

Achos Siôn Corn

Wythnos yn dechrau 12 Rhagfyr

Santas Cause PresenstByddwn yn codi arian eto eleni i brynu anrhegion Nadolig i'r plant hynny a gefnogir gan ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol.  Bydd angen gwirfoddolwyr ar sawl diwrnod ym mis Rhagfyr i drefnu a phacio anrhegion.  Bydd y diwrnod yn cynnwys didoli a dyrannu anrhegion ac yna pacio'r rhain yn barod ar gyfer eudosbarthu. Mae croeso i chi wisgo eich siwmperi Nadolig.

Cliciwch yma i ddewis y diwrnod sy'n gweithio orau i chi!

Gallwch ddarllen y Polisi Gwirfoddolwyr Corfforaethol llawn yma.