
Annwyl gydweithwyr,
Mewn cyfnod o newid digynsail mae un peth wedi bod yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf - ymrwymiad di-flino ein cydweithwyr i wasanaethu cymunedau Bro Morgannwg. Mae 2022 yn sicr wedi bod yn flwyddyn unigryw arall i Gyngor Bro Morgannwg. Gynted ag yr oedden ni allan o'r pandemig, dyma argyfwng arall yn taro, y tro hwn ar ffurf costau byw cynyddol a chwyddiant prisiau ynni. Ond fel erioed, ymatebodd y sefydliad hwn a'n hased mwyaf - ein pobl – i'r her.
Rydyn ni wedi gwneud pethau gwych eleni. Mae diwedd y flwyddyn bob amser yn gyfle da i ddathlu gwaith ein timau. Yn lle'r calendr adfent a’r negeseuon diolch rydyn ni wedi'u defnyddio yn y gorffennol, ar gyfer 2022 rydyn ni wedi bwrw golwg fanwl ar rai gwasanaethau neu brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae ein Coeden Nadolig y Fro yn cyflwyno chwe fideo am gydweithwyr o wahanol rannau o'r sefydliad, yn sôn am y prosiect neu'r gwasanaeth y maen nhw wedi cyfrannu ato neu wedi ei arwain. Os nad ydych chi wedi cael cyfle i wylio'r ffilmiau byr hyn eto, gallwch eu gweld nawr ar StaffNet+.
Mae'r gyfres yn agor gyda Tom Narbrough yn sôn am GLAM a chefnogi ein cydweithwyr LHDTC+. Wedyn, mae Mark Davies yn trafod rhoi mynediad i holl ferched a menywod ifanc y Fro i gynnyrch mislif trwy’r prosiect Urddas Mislif. Mae Abigail Anderson a Levi Cullinane yn ymuno â ni i sôn am y Gwasanaeth Teleofal a pham ei fod mor bwysig i'n trigolion hŷn. Mae Owen a Gethin o Ysgol Gynradd William yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr-y-fro yn cynnig cipolwg gwych ar waith ein hysgolion yn ogystal â'u hymdrechion i annog disgyblion i gerdded i'r ysgol gyda phrosiect WOW. Mae gwaith ein timau gofal yn cael sylw arbennig gan Abisola Badru, sy'n sôn am natur werth chweil ei gwaith yng Nghartref Gofal Preswyl Tŷ Dewi Sant. Ac i gloi, gwelwn beth all ddigwydd pan fo’n timau'n tynnu ynghyd, gyda golwg ar ein hymgyrch Achos Siôn Corn a chawn weld pwy fydd yn elwa o haelioni anhygoel ein cydweithwyr.
Ymwelwch â Thudalen Cyfarchion y Tymor ar Staffnet+ a chliciwch ar bob un o'r peli Nadolig ar y Goeden i wylio'r fideos. Fel bob amser, byddwn hefyd yn annog cydweithwyr i rannu eu negeseuon diolch eu hunain os ydyn nhw'n dymuno rhoi teyrnged i gydweithwyr trwy ein Tudalen Gwerthfawrogi Staffnet+.
Dim ond detholiad bach o'r gwaith bendigedig sy'n digwydd ledled y Cyngor yw'r prosiectau sydd yn y ffilmiau hyn.
Mae 2022 wedi gweld lansio ein hymgyrch Croeso Cynnes i gefnogi trigolion ledled y Fro gyda mannau cynnes i gael cyngor a chefnogaeth.
Mae'r deuddeg mis diwethaf hefyd wedi gweld gwaith rhyfeddol i fynd i’r afael â thlodi bwyd drwy fentrau fel y Bocs Bwyd Mawr yn ein hysgolion, Pod Bwyd Penarth a sefydlwyd gan ein tîm Tai, a lansio partneriaethau cymunedol megis prosiect Y Ganolfan Bwyd a Mwy fel rhan o Brosiect Bwyd Llanilltud.
Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau yn y Fro. Mae ein gwaith yn cael ei gydnabod fwyfwy ar lefel genedlaethol. Diolch i arloesi a gwaith caled ein timau mae'r Cyngor wedi ennill cyfres o wobrau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd ein cydweithwyr Dysgu a Sgiliau ac ysgolion wrth galon y prosiect a welodd Ysgol Gynradd Trwyn y De yn cipio'r prif wobrau yn RTPI Cymru a Gwobrau RTPI UK yn ystod y flwyddyn. Roedd dwy ysgol arall yn y Fro yn fuddugol hefyd yng Ngwobrau Treftadaeth Ysgolion Cymru ym mis Gorffennaf.
Roedd ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdogaeth a Pharciau Gwledig yn ganolog i lwyddiant y Cyngor i ennill deg Dyfarniad Baner Werdd yr haf yma, gan sicrhau ein bod yn parhau’n un o’r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru.
Cyflawnodd cydweithwyr o bob rhan o’r adran Adnoddau Corfforaethol rôl yn llwyddiannau’r Cyngor yng ngwobrau Ystadau Cymru yn gynharach y mis hwn. Cyfrannodd ystod yr un mor eang o gydweithwyr at y Fro’n ennill Statws Awdurdod Arloesi gan Race Equality Matters yn gynharach eleni.
Yn y cyfamser mae gwaith diflino ein timau Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael ei sylw mewn sawl fforwm. Yn fwyaf nodedig gyda’u llwyddiannau yng Ngwobrau Blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ar ôl gweld cynifer o straeon am ein llwyddiannau ar y cyd roedd yn uchafbwynt personol i'r ddau ohonon ni adolygu'r enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Staff a chwrdd â’r enillwyr wedyn ym mis Medi. Roedd y noson yn y Vale Resort yn un i'w chofio ac yn llwyfan addas i'r talentau unigol a'r gwerthoedd ar y cyd sy’n gwneud Cyngor Bro Morgannwg yn un mor wych.
Mae ein gwerthoedd cyffredin yn amlwg bob dydd yn y ffordd rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i oresgyn yr heriau cynyddol gymhleth sy'n wynebu ein cymunedau a'r sefydliad ei hun. Byddai'n amhosib rhestru'r holl enghreifftiau gwych o ethos Tîm y Fro ond mae'r ymateb ar y cyd gan ein staff i gefnogi'r rhai sy'n llai ffodus na nhw eu hunain ar ffurf ymgyrchoedd Milltiroedd ar gyfer Wcráin ac Achos Siôn Corn efallai ymhlith y rhai mwyaf cofiadwy eleni.
Yr awydd cyffredin hwn i wneud yr hyn sy'n iawn a helpu'r rhai mwyaf anghenus sy'n rhoi hyder mawr i ni ar gyfer 2023. Nid wythnos y Nadolig yw'r adeg iawn i ailadrodd yr hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud am yr hyn sydd o'n blaenau. Fodd bynnag, mae'n gyfle i ni oedi i feddwl a chofio'r heriau niferus rydyn ni wedi'u goresgyn yn y gorffennol, sut rydyn ni wedi gweithio gyda'n gilydd, sut rydyn ni wedi gwneud safiad dros y rhai rydyn ni’n eu cynrychioli, ac am y cydweithwyr talentog, dygn, a charedig rydyn ni mor ffodus o allu gweithio ochr yn ochr â nhw.
Fydd y Nadolig na'r Flwyddyn Newydd ddim o reidrwydd yn golygu seibiant i bawb. Hoffem roi teyrnged benodol i'r staff rheng flaen hynny fydd yn parhau i weithio dros y pythefnos nesaf, yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed, yn cynnal cartrefi, adeiladau cyhoeddus, a mannau cyhoeddus eraill er mwyn i bobl allu eu mwynhau.
I bawb arall gobeithiwn y cewch gyfle i orffwys, adfywio ac ymlacio gyda'ch anwyliaid.
Nadolig Hapus a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.
Rob Thomas a’r Cynghorydd Cllr Lis Burnett