Dathlu enillwyr y Gwobrau Staff

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi enillwyr Gwobrau Staff 2022 yn dilyn y seremoni wobrwyo’r wythnos diwethaf yng Ngwesty’r Vale.

Roedd 13 o wobrau. Roedd y categorïau  wedi eu hailwampio ychydig er mwyn adlewyrchu ymroddiad ein staff dros gyfnod heriol iawn.  Cafwyd 194 o enwebiadau, mwy nag erioed. 

Dewiswyd enillwyr categori Ein Harwr gan gydweithwyr, a’r noddwyr oedd yn gyfrifol am ddewis enillwyr y categorïau eraill.

Dyma oedd y canlyniadau:

Ein Harwr: 

  • Ysgolion:  Jeff Schembri, Ysgol Gynradd Oakfield
  • Adnoddau: Lynne Clarke
  • Yr Amgylchedd a Thai:  Deborah Gibbs
  • Gwasanaethau Cymdeithasol: Simon Colston
  • Dysgu a Sgiliau:  Donna Parker
  • Arwr yr Arwyr: Jeff Schembri, Ysgol Gynradd Oakfield

Categoriau Ehangach

  • Seren Sy'n Codi: Emily Dobson, Swyddog Adfywio - Cyfarwyddiaeth Lleoedd
  • Dathlu Amrywiaeth:  Amy Auton, Golygydd Gwe - Cyfarwyddiaeth Adnoddau Corfforaethol
  • Prosiect Sero: Ailgylchu a Rheoli Gwastraff - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai
  • Effaith Gymunedol: Tîm Ymateb Grantiau Covid - Cyfarwyddiaeth Adnoddau Corfforaethol/Lleoedd
  • Tîm y Flwyddyn: Tîm Adnoddau Cymunedau’r Fro - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Ysgolion yn Creu Effaith:   Ysgol Gynradd Oakfield
  • Y Bartneriaeth Allanol Orau  Partneriaeth Rheoli Hamdden - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai

Unwaith eto, hoffem longyfarch pob enwebai, a diolch iddynt, yn ogystal â phawb a roddodd o’u hamser i enwebu eraill.  Diolch hefyd i’n noddwyr hael a Gwesty’r Vale am wneud y digwyddiad yn bosibl.