Welcome to the Council of the future - header

Rôl Cadernid Economaidd yn y Rhaglen Ail-lunio a'r Cynllun Corfforaethol

09 Awst 2024

Mae hybu cadernid economaidd yn agwedd bwysig arall ar y Cynllun Corfforaethol newydd, sy'n nodi gweledigaeth o sut y bydd y Cyngor yn gweithredu erbyn 2030 a thu hwnt.  

Mae ganddo gysylltiad cryf â chreu swyddi a'r gallu i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth sy'n talu'n dda yn y Fro.

Un o gonglfeini'r Cynllun Corfforaethol yw'r Rhaglen Ail-lunio gan fod hynny'n esbonio'r newidiadau y mae'n rhaid eu gwneud i wireddu uchelgeisiau'r Cyngor. 

Mae ail-lunio yn ymwneud ag ailddyfeisio ac ailarchwilio gwasanaethau ar draws pum maes allweddol: Model Gweithredu Targed, Trawsnewid Gwasanaethau, Cryfhau Cymunedau, Arloesi Digidol, a Chadernid Economaidd.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae aelodau gwahanol o Dîm Arwain Strategol y Cyngor wedi cyfrannu at erthyglau am bynciau sy'n ymwneud yn agos â'r gwaith sy'n digwydd yn eu Cyfarwyddiaeth.  

Marcus Goldsworthy

Fel Cyfarwyddwr Lleoedd, mae Marcus Goldsworthy ar flaen y gad o ran ymdrechion i wneud y Fro yn fwy cadarn yn economaidd. 

"Mae cadernid economaidd yn golygu economi sy'n gallu ymdopi â phethau annisgwyl ac ailgydio mewn pethau ar ôl cyfnodau anodd," meddai Marcus.  

"Mae'n cynnwys cael cyfuniad o ddiwydiannau a busnesau, seilwaith cadarn a sefydlogrwydd ariannol, ynghyd â chefnogaeth gymunedol gref. 

"Mae hynny'n golygu y gall busnesau a phobl wella'n gyflym a pharhau i symud ymlaen er y gallai fod rhwystrau ar hyd y ffordd. 

"Ein nod yw creu amgylchedd lle gall busnesau ac unigolion yn y Fro ffynnu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cyllid allanol, cydweithio ar draws gwasanaethau, a phartneru â rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol. Gyda'n gilydd, gallwn gefnogi busnesau, ysgogi adfywio, a rhagori wrth greu lleoedd."

Mae creu lleoedd yn ymwneud â chreu ardaloedd o ansawdd da i fyw ynddynt ac mae'n ymwneud â'r amgylchedd, yr unigolion sy'n byw yn y mannau hyn ac ansawdd bywyd sy'n deillio o ryngweithio pobl a'u hamgylchedd.

Mae'n ganolog i adfywiad llwyddiannus yn y Fro, gan feithrin ymgysylltiad cymunedol, gwella hunaniaeth leol, a sbarduno twf economaidd.   

Gyda chymeradwyaeth ddiweddar y Cyngor o Siarter Creu Lleoedd Cymru, mae pob adran bellach yn chwarae rhan yn y broses hon. 

Trwy adfywio ardaloedd segur i fannau bywiog, cynhwysol, mae creu lleoedd yn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol ac yn denu buddsoddiad.

Dock Offices

Mae mannau sydd wedi'u cynllunio'n dda, sydd â chysylltiadau trafnidiaeth a thai, yn cefnogi datblygu cynaliadwy, cyfrifoldeb amgylcheddol, ac yn lleihau ôl troed carbon, gan greu cymunedau cadarn a deniadol yn y pen draw. 

Mae'r prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys trawsnewid Swyddfeydd Dociau'r Barri yn ofod masnachol o dros 25,000 troedfedd sgwâr i helpu busnesau newydd i dyfu a'r Prosiect Y Barri - Creu Tonnau, gwerth £35 miliwn.

Bydd hynny'n datblygu marina, parc, a chanolfan chwaraeon dŵr newydd. Mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi buddsoddiad hirdymor gwerth £20 miliwn a arweinir gan y gymuned ar gyfer y Barri trwy Gynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, Llywodraeth y DU, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch, adfywio canol trefi a chysylltedd trafnidiaeth.  

Barry Waterfront Meeting with Undersecretary for Wales

"Yn hanesyddol mae'r Fro wedi profi lefelau uchel o allgymudo, gan effeithio ar ein heconomi a'n hamgylchedd," meddai Marcus. 

"Drwy greu cyfleoedd gwaith lleol, gallwn leihau allyriadau a chefnogi ein hymrwymiad Prosiect Sero i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.  

"Mae mentrau datblygu economaidd yn hanfodol ar gyfer lliniaru tlodi drwy feithrin amgylchedd cefnogol ar gyfer llwyddiant busnes a chreu swyddi." 

Yn ogystal â chwilio am gyfleoedd ariannu, mae gweithio gyda sefydliadau partner yn rhan bwysig arall o greu Cadernid Economaidd.

Mae hynny'n golygu cydweithio â Llywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU, busnesau lleol a diwydiant yn ogystal â sefydliadau'r trydydd sector fel elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol.

Mae ymwneud y Cyngor â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys ardaloedd Awdurdod Lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a’r Fro hefyd yn bwysig.

Barry docks transport hub

"Mae safle daearyddol y Fro ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwella ei photensial economaidd. Mae'r bartneriaeth hon eisoes wedi creu dros 3,000 o swyddi ac wedi cefnogi dros 200 o fusnesau," meddai Marcus. 

"Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys caffael Gorsaf Bŵer Aberddawan a buddsoddiadau sylweddol yn system drafnidiaeth y Metro.  

"Mae'r Cyngor yn chwarae rhan allweddol wrth nodi safleoedd buddsoddi, darparu cymorth busnes, a chynnig grantiau i ysgogi twf lleol." 

Bydd cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru o fuddsoddiad pellach o £205 miliwn ym Maes Awyr Caerdydd hefyd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer twf ac yn cefnogi Ardal Fenter ehangach Bro Tathan ymhellach.

Mae Bro Tathan, yn Sain Tathan, yn barc busnes sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, sydd â'r potensial i greu twf sylweddol.

Nod Strategaeth Fuddsoddi a strwythur llywodraethu newydd y Cyngor yw cyflymu'r gwaith o gyflawni prosiectau a denu buddsoddiad pellach.  

"Hyd yn oed ynghanol heriau ariannol, mae yna nifer o gyfleoedd ar gyfer prosiectau arloesol a all gryfhau cadernid economaidd y Fro yn sylweddol," ychwanegodd Marcus.

"Mae ymdrechion cydweithredol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, busnesau lleol a sefydliadau'r trydydd sector yn hanfodol er mwyn cyflawni'r nodau hyn. 

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r dyfodol economaidd gorau i'n trigolion trwy gydweithrediad strategol a buddsoddiad." 

Yn ddiweddar, cyflwynodd Rob Thomas, Tom Bowring a Lloyd Fisher sesiwn ar Amcanion Lles y Cyngor a sut maent yn cysylltu â'r Rhaglen Ail-lunio a'r Cynllun Corfforaethol, sydd ar gael i'w gweld ar-lein.

Dros y misoedd nesaf, bydd staff yn cael cyfleoedd pellach i rannu eu meddyliau a chymryd rhan yn y broses wrth i'r gwaith hwn ddatblygu. 

Welcome to the Council of the future - footer