Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 24 Tachwedd 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
24 Tachwedd 2023
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau'r wythnos hon trwy ganmol yr holl gydweithwyr sydd wedi addo eu cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn heddiw naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb yn y Swyddfeydd Dinesig.
Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn bodoli er mwyn annog dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae'r ymgyrch #NewidYStori eleni yn fwy gonest nag erioed. Nid yw hwn yn bwnc hawdd i bobl ei drafod ond mae'n un y mae'n rhaid i bob un ohonom ei wynebu er mwyn i fenywod a merched fyw eu bywydau yn rhydd rhag ofni trais.
Mae Christopher Nunn a Julie Grady wedi bod yn cymryd rhan mewn sgyrsiau gyda chydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd drwy'r dydd. Wrth siarad â nhw yn gynharach heddiw daeth yn amlwg i mi bwysigrwydd peidio byth ag esgusodi nac aros yn dawel os oes gennych unrhyw bryderon am y ffordd y mae pobl yn cael eu trin. Diolch am heddiw, ac i bawb ar draws ein timau Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol a Bro Ddiogelach, y gwn eu bod yn gwneud cymaint o ddydd i ddydd i gefnogi preswylwyr y Fro sydd mewn perygl o drais.
Os nad oeddech chi'n gallu cyrraedd y Swyddfeydd Dinesig heddiw ond eisiau dysgu mwy am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a sut gallwch chi gefnogi, gallwch ddarganfod mwy trwy'r dolenni ar StaffNet+ a'n tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae hon wedi bod yn wythnos arwyddocaol arall o ran newyddion ariannu i'n Cyngor. Ddydd Mercher fe wnaeth Canghellor y DU Ddatganiad yr Hydref. Er y bydd ein cyllideb yn cael ei phennu gan y setliad y mae'r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, byddai unrhyw gyllid newydd a gyhoeddwyd yn Nhŷ'r Cyffredin wedi cael effaith ar gyllid i Gymru. Yn anffodus, nid oedd unrhyw arwydd o gyllid newydd i gefnogi'r pwysau sylweddol ar ofal cymdeithasol ac addysg. Fodd bynnag, roedd y penderfyniad i ddadrewi cyfraddau Lwfans Tai Lleol yn sicr i'w groesawu, ac rwy'n gobeithio y bydd yn galluogi ein tîm Tai i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd yn well.
Fodd bynnag, roedd gennym newyddion ariannu gwell yn gynharach yn yr wythnos. Fore Llun, clywodd yr Arweinydd a minnau y newyddion bod y Cyngor wedi llwyddo i wneud cais am £19.8m mewn Cyllid Ffyniant Bro ar gyfer adfywio pellach yn y Barri. Ochr yn ochr â'r cyllid Trawsnewid Trefi a sicrhawyd fis diwethaf, rydym bellach mewn sefyllfa i wneud rhai gwelliannau sylweddol i seilwaith yn nhref fwyaf y Fro a helpu i sbarduno mwy o ffyniant a gwella rhagolygon a lles preswylwyr
Yn gynharach heddiw, ynghyd â'r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a chydweithwyr o'n tîm Lle, cwrddais â Fay Jones AS, Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru. Buom yn trafod ein cynlluniau ar gyfer y Barri yn fanwl yn Swyddfa'r Dociau ac aethom am dro byr draw i safle arfaethedig Marina’r Glannau. Roedd llunio a chyflwyno ein cais Ffyniant Bro yn ymdrech Tîm y Fro gwirioneddol gyda chydweithwyr o’r Gwasanaethau Cyllid a Chyfreithiol yn chwarae rolau hanfodol ochr yn ochr â'r arweinwyr adfywio yn ein tîm Lle. Dylai pawb oedd yn gysylltiedig fod yn falch iawn o'r gwaith sydd wedi'i wneud i sicrhau'r cyllid hwn. Heb os, bydd gan y gwaith y mae'n ei alluogi etifeddiaeth hir yn y Fro. Dim ond un rhan fach o'r daith yw sicrhau'r cyllid ac mae'r gwaith caled yn dechrau nawr, wrth i ni anelu at droi ein cynlluniau'n realiti. Bydd hyn yn gofyn am ddull penodol sy'n cynnwys cydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad a'n partneriaid.
Nid oes unrhyw un yn chwarae mwy o ran wrth lunio dyfodol y Fro na'r cydweithwyr hynny sy'n gweithio yn ein hysgolion. Fel Cyngor, mae ein huchelgais i wneud hon yn Fro fwy cynhwysol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chofnodi'n dda ac felly roedd yn wych gweld nifer o'n hysgolion yn bresennol yn y gynhadledd Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol yr wythnos hon. Y thema oedd 'Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn Ysgolion'. Roedd ysgolion y Fro a oedd yn bresennol yn bendant o ran y ffordd y maent yn creu diwylliant mwy gwrth-hiliol yn eu hysgolion. Cyflwynodd pennaeth Ysgol Gynradd Victoria, Samantha Daniels, a’r Cydlynydd ADY, Charlotte Davies, gyflwyniad ar y camau gwrth-hiliol y maent wedi'u cymryd a sut maen nhw'n cynyddu lefel llythrennedd hiliol eu staff a'u disgyblion. Da iawn Ysgol Gynradd Victoria, a da iawn i ysgolion eraill y Fro sy'n dod yn arbenigwyr mewn Ymchwil Gweithredu Gwrth-hiliol.
Cyflwynodd ein Rheolwr Cysylltiadau Dysgu, Martine Booker-Southard, gyflwyniad hefyd ar yr ymchwil weithredol a wnaed yn y Fro, a chyflwynodd ymateb i'r cwestiwn "I ba raddau y mae dysgu proffesiynol i ysgolion yn cyfrannu at Gymru yn dod yn genedl wrth-hiliol?" Os oes gennych ddiddordeb yn darganfod mwy am yr ymchwil hwn, bydd Martine yn archwilio'r pwnc hwn yn y cyfarfod Amrywiaeth nesaf ddydd Mawrth 28 Tachwedd, yn Ysgol Gynradd Heol Holltwn.
Erbyn hyn, bydd y rhan fwyaf o staff yn ymwybodol o'r gwaith sylweddol a pharhaus i drosglwyddo systemau mewnol amrywiol i lwyfannau newydd, mwy effeithiol. Er y bydd yr holl brosiectau hyn yn arwain at ffyrdd haws a mwy effeithlon o weithio, yn aml mae angen llawer o waith y tu ôl i'r llenni i wneud y trawsnewid mor llyfn â phosibl. Yn y cyd-destun hwn roedd yn wych clywed yr wythnos hon nid yn unig am fudo llwyddiannus arall ond un a wnaed mor esmwyth iddo gael canmoliaeth gan ein harchwilwyr, nid y bobl hawsaf i'w plesio'n aml! Arweiniodd trosglwyddo cyfrifon dyledwyr o'r hen system Oracle i'r Academi, a ddigwyddodd ym mis Mawrth 2023, at y lefel isaf o daliadau heb eu dyrannu a welodd yr archwilydd dan sylw erioed. Mae hyn yn glod mawr yn wir i'n timau Rheoli Incwm a Chyfrifon ac yn haeddiannol iawn am eu gwaith caled. Diolch yn fawr bawb.
Bydd llawer ohonoch eisoes wedi gweld ein gwaith yr wythnos hon i ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr, a gynhaliwyd ddydd Iau. Bob blwyddyn, mae Carers UK yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr. Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan enfawr yn ein cymunedau. Rwy'n falch ein bod ni fel sefydliad yn gwneud cymaint i'w cefnogi. Eleni mae James Livingston, ein Swyddog Cymorth i Ofalwyr wedi recordio fideo byr i helpu i hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael. Diolch James, a gweddill ein cydweithwyr sy'n gweithio yn y maes hwn. Os ydych chi'n adnabod unrhyw un y credwch fyddai'n gymwys fel gofalwr di-dâl, yna anfonwch y neges ymlaen.
Grŵp arall o bobl sy'n darparu cefnogaeth amhrisiadwy yn ein cymunedau yw ein gofalwyr maeth. Fel Cyngor, rydym bob amser yn awyddus i recriwtio mwy o ofalwyr maeth. Gall fod yn rôl hynod werth chweil ac os hoffech wybod mwy am y mathau gwahanol o ofal maeth, y daith i ddod yn ofalwr maeth, yr hyfforddiant a'r cymorth a ddarperir neu'r gwobrau y gall maethu eu cynnig, yna gallwch gwrdd â thîm Maethu Cymru Bro Morgannwg yn eu sesiwn wybodaeth ar-lein yr wythnos nesaf. Cynhelir y sesiwn ddydd Mercher 29 Tachwedd am 7 - 8pm. Gallwch archebu lle nawr.
Rwy’n gorffen yr wythnos gyda newyddion y bydd pawb yn ei groesawu rwy’n siŵr. Cytunwyd ar ddyfarniadau cyflog eleni i athrawon a staff ar raddau statws sengl y Cyd-gyngor Cenedlaethol gydag undebau llafur. Bydd athrawon yn derbyn eu cyflog newydd yng nghyflog mis Tachwedd, fydd yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2023. Bydd staff ar raddau statws sengl y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn derbyn eu cyflog newydd yn eu slipiau cyflog ym mis Rhagfyr, ynghyd â thâl wedi ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2023. Fel bob amser, diolch i'n tîm Cyflogres yn AD am weithio mor gyflym i sicrhau bod staff yn derbyn yr ôl-dâliad sy'n ddyledus iddynt cyn gynted â phosibl.
Bydd y codiad cyflog wrth gwrs yn cael effaith ar bensiynau cydweithwyr. Er bod y rhan fwyaf o bobl, yn ddealladwy, yn edrych ar eu cyflog yn gyflym ac mae ganddynt ddealltwriaeth dda o'r agwedd hon ar eu cydnabyddiaeth ariannol, mae pensiynau'n cael eu hanwybyddu weithiau. Mae ein pensiynau a'r ymddeoliad maen nhw'n ei roi i ni i gyd yn dal i fod o fudd sylweddol i yrfa mewn llywodraeth leol neu addysg a gallwch ddarganfod mwy am eich un chi trwy fynd i’r safle Pensiynau Athrawon ensiynau Athrawon neu safle CCPLlL Caerdydd a'r Fro. Mae gan y ddau safle wybodaeth ddefnyddiol iawn am bensiynau a pheidiwch ag anghofio os ydych yn aelod o'r cynllun CPLlL, gallwch roi hwb i'ch pensiwn gan ddefnyddio'r cynllun ildio cyflog a lansiwyd yn gynharach eleni.
Diolch fel arfer i bob cydweithiwr am eich gwaith yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob