Staffnet+ >
Cyfarfod Rhwydwaith Staff Amrywiol Dydd Mawrth 28 Tachwedd
Cyfarfod Rhwydwaith Staff Amrywiol: Dydd Mawrth 28 Tachwedd

Bydd Rhwydwaith Staff Amrywiol yn cyfarfod ddydd Mawrth 28 Tachwedd rhwng 3 a 5pm yn Ysgol Gynradd Heol Holltwn. Byddwn yn cyfarfod yn y caffi, felly defnyddiwch fynedfa caffi'r ysgol ar Stryd Pyke.
Fis yma, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am rai prosiectau sydd i ddod y mae'r rhwydwaith wedi bod yn gweithio arnynt.
Bydd y Cadeirydd, Martine Booker-Southard, hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ymchwil y Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol mewn ysgolion ledled y Fro.
Yr wythnos hon, rhoddodd Martine gyflwyniad mewn Cynhadledd Dysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DPAGh), a oedd yn canolbwyntio ar y cwestiwn ymchwil canlynol:
"I ba raddau mae dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion yn cyfrannu at Gymru’n dod yn genedl wrth-hiliol?"
Byddwn yn trafod y cwestiwn hwn yn ystod y cyfarfod.
Clwb Cyfryngau Tachwedd
Wrth symud ymlaen, hoffem neilltuo peth amser yn ystod ein cyfarfodydd misol i drafod darn perthnasol o’r cyfryngau, megis erthygl, ffilm neu raglen.
Yn ystod y cyfarfod ddydd Mawrth, byddwn yn trafod:
Windrush: Rhwng Dau Fyd
Dyma bennod arbennig a gyflwynwyd gan Emily Pemberton sy'n ymchwilio i hanes cenhedlaeth Windrush Cymru. Mae'r rhaglen yn Gymraeg, ond mae isdeitlau Saesneg ar gael hefyd. Gallwch wylio'r rhaglen ar BBC iPlayer.
Byddem hefyd wrth ein bodd yn clywed am unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol. Gallwch gyflwyno eich awgrymiadau isod:
Ffurflen Syniadau Amrywiol