Gwnewch Addewid i #NewidYStori ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn  

White Ribbon DayY 25ain o Dachwedd yw Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, a elwir hefyd yn Ddiwrnod y Rhuban Gwyn.

Mae White Ribbon, prif elusen y DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, yn annog unigolion a sefydliadau i wneud dewisiadau a chymryd camau cyson fel ein bod yn #NewidYStori i fenywod a merched allu byw eu bywydau yn rhydd rhag ofn o drais.

Eleni, bydd cydweithwyr yn cynnal stondin yn y Swyddfeydd Dinesig rhwng 10am a 3pm ddydd Gwener 24 Tachwedd. Dewch draw i ddysgu mwy am ymgyrch y Rhuban Gwyn ac i wneud eich addewid i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. 

Mae White Ribbon UK yn gweithio i atal trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched, a'u nod yw atal trais cyn iddo ddechrau. Maent yn gwneud hyn mewn sawl ffordd gyda'u ffocws ar alluogi dynion a bechgyn i fod yn wneuthurwyr newid.

Y neges i ddynion yw: ‘Peidiwch byth â defnyddio, esgusodi neu aros yn dawel ynghylch trais gan ddynion yn erbyn menywod’.

Mae’r angen am eu gwaith i’w weld ym mhrofiadau byw menywod a merched ledled y DU.

Y gwir amdani yw bod y mwyafrif o drais yn erbyn menywod yn cael ei gyflawni gan ddynion. Dyma rai ystadegau.

  • Mae 30% o fenywod wedi profi aflonyddu yn y gweithle, gydag 81% yn dweud eu bod wedi cael eu haflonyddu gan ddyn/dynion. (Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth) 
  • Profodd 1.7 miliwn o fenywod gam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022. (SYG)

Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr Gwasanaethau yr Amgylchedd a Thai a llysgennad ymgyrch y Rhuban Gwyn: "Mae hwn yn fater rwy'n teimlo'n gryf am ei gefnogi, ar ôl gwneud y digwyddiad 'cerdded milltir yn ei hesgidiau' mewn blynyddoedd blaenorol sy'n gwneud datganiad cyhoeddus pwysig i ddynion beidio â chyflawni, cymeradwyo neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod a merched.

"Rwyf hefyd wedi arwain ar ddarn parhaus o waith yn fy nghyfarwyddiaeth i roi cyfle i aelodau staff benywaidd rannu eu profiadau o anghydraddoldeb neu aflonyddu yn gyfrinachol, yn y gobaith y gallwn ddysgu o unrhyw gamgymeriadau'r gorffennol a gwneud ein gweithle yn lle mwy cynhwysol lle mae menywod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi."

Cymerwch ran

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn 

  • Gwisgwch ruban gwyn
  • Ewch i'r stondin yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig ar 24 Tachwedd i wneud addewid i gefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn - mae croeso i ddynion a menywod fel ei gilydd
  • Mynegwch ddiddordeb mewn dod yn llysgennad Rhuban Gwyn
  • Cefnogwch y Cyngor i weithio tuag at ddod yn sefydliad achrededig y Rhuban Gwyn

Cymorth a chefnogaeth  

Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei nabod yn dioddef trais ar sail rhyw neu drais domestig, gofynnwch am help

  • Ffoniwch 999 mewn argyfwng
  • Refuge (Llinell Gymorth Genedlaethol) 0808 2000 247
  • Atal Y Fro: