Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2023: Dydd Iau 23 Tachwedd
23 Tachwedd 2023
Rydym yn ymuno â sefydliadau ledled y DU i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 23 Tachwedd.
Gofalwr di-dâl yw rhywun sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl. Bob blwyddyn, mae Carers UK yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr drwy ymgyrch genedlaethol Diwrnod Hawliau Gofalwyr.
Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ofalu, helpu i adnabod gofalwyr ac yn eu grymuso gyda gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae'n helpu gofalwyr i deimlo'n hyderus yn gofyn am yr hyn sydd ei angen arnynt ac yn herio pethau pan nad yw eu hawliau'n cael eu bodloni. Boed hynny yn y gweithle neu mewn addysg, wrth gael mynediad at iechyd neu ofal cymdeithasol, neu wrth ryngweithio â gweithwyr proffesiynol eraill gartref, nod Diwrnod Hawliau Gofalwyr yw amlygu’r heriau sy'n wynebu gofalwyr.
Gall gofalwyr sy'n byw yn y Fro gael mynediad at ystod o gymorth drwy un pwynt cyswllt. Trwy Asesiad Gofalwyr, mae'r gweithiwr cymorth yn dysgu am amgylchiadau gofalwyr ac anghenion cymwys cyn hwyluso gwasanaethau a chymorth priodol.
Gall trigolion y Fro sy'n gofalu am rywun ofyn am Asesiad Gofalwyr drwy ffonio 01446 700111 neu e-bostio C1V@valeofglamorgan.gov.uk
Cewch glywed mwy am y cymorth sydd ar gael gan James Livingston, Swyddog Datblygu Gofalwyr Cyngor Bro Morgannwg:
Sesiwn Galw Heibio Codi a Chario Ar Gyfer Gofalwyr Di-Dâl
Ddydd Iau yma, bydd Elspeth Cameron, cydlynydd codi a chario’r Cyngor, yn cynnal sesiwn hyfforddi galw heibio i ddangos ystod o offer a rhoi cyngor ar sut i symud rhywun yn ddiogel.
Gall gofalwyr alw heibio i'r digwyddiad rhwng 10 a 4pm ar 23 Tachwedd yn Uned 5, Canolfan Gwasanaethau Busnes, Hood Road, Y Barri, CF62 5QN.
Polisi Gofalwyr Cyflogeion
Mae ein Polisi Gofalwyr wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael ag anghenion cyflogeion sydd â chyfrifoldebau gofalu i helpu i gydbwyso eu bywydau cartref â'u bywydau gwaith.
Mae'r polisi yn berthnasol i unrhyw gyflogai sy'n gofalu am oedolyn oedrannus a/neu anabl sy'n perthyn i un o'r categorïau canlynol:
- Yn briod â’r cyflogai, neu’n bartner neu bartner sifil i’r cyflogai
- Yn berthynas agos i’r cyflogai
- Ddim yn perthyn i'r naill gategori na'r llall ond yn byw yn yr un cyfeiriad â'r cyflogai
Polisi Gofalwyr
Mae angen i gyflogeion sydd â chyfrifoldebau gofalu gofrestru er mwyn fanteisio ar fuddion llawn y polisi. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai'r buddion hyn gynnwys:
- Diweddariadau ar wybodaeth a datblygiadau cymorth i ofalwyr, anfonir yn uniongyrchol atoch
- Mynediad i e-bost a chyfleusterau ffôn yn y gwaith
- 'Amser allan' o'r swyddfa
- Mynediad i gynllun seibiant gyrfa gofalwr
- Mynediad i gyfleusterau gweithio hyblyg
- Mynediad i absenoldeb arbennig
- Mynediad i absenoldeb di-dâl
- Gweithio gartref
Adnoddau Defnyddiol
Cofrestr Gofalwyr
Cais Cofrestr Gofalwyr
Hawl i wneud cais am oriau gwaith hyblyg
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth a manteisio ar gymorth ar wefan y Cyngor:
Gwybodaeth i ofalwyr di-dâl