webpage banner

Ymunwch â'r Sgwrs am Newid yn yr Hinsawdd 

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n adeiladu ar uwchgynhadledd newid yn yr hinsawdd fyd-eang COP i annog sgyrsiau cenedlaethol a rhanbarthol ar newid yn yr hinsawdd.

Thema'r sgwrs eleni yw tegwch, gan ofyn 'Sut mae mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd mewn ffordd deg?'. 

Bydd y digwyddiad yn archwilio sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar wahanol bobl, grwpiau a lleoedd mewn modd anghymesur, ac yn mynd i'r afael â sut y gallwn sicrhau bod buddion sy'n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws cymdeithas.

Fel awdurdod lleol sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, byddwn hefyd yn nodi'r digwyddiad yn y ffyrdd canlynol. 

4 December

Dydd Llun 4 Rhagfyr 

Diolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad Cyfnewid Nadolig. Cafodd tua 75 eitem eu cyfnewid neu eu rhoi i Achos Siôn Corn gyda'r 75 eitem arall wedi'u rhannu rhwng siop newydd Diwastraff Awesome Cymru, Eto, ar Heol Holton a'r Siop Ailddefnyddio newydd yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Barri.  

 

reuse shop barry

Dydd Mawrth 5 Rhagfyr

Mae siop ailddefnyddio newydd wedi agor yn ein Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn y Barri. Bydd y siop yn gwerthu amrywiaeth o eitemau ail-law a dderbyniwyd yn rhodd yn y ddwy CAGC yn Y Fro. Mae siopau ailddefnyddio yn dargyfeirio eitemau rhag cael eu gwaredu a’u hailgylchu wrth godi arian hanfodol ar yr un pryd i Sefydliad Enfys. Gallwch roi eitemau yn nail galfonnau ailgylchu neu’r llall yn Y Barri neu Llandŵ, rhowch wybod i aelod o staff fod gennych eitemau i’w hailddefnyddio wrth gyrraedd y safle.

 

Learning cafe logo 122x122

Dydd Mercher 6 Rhagfyr  

Bydd y Caffi Dysgu yn lansio modiwlau ac adnoddau dysgu newydd sy'n gysylltiedig â Prosiect Sero trwy iDev. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth am hyn yr wythnos nesaf. Neu cofrestrwch i dderbyn diweddariadau caffi dysgu rheolaidd.

YCC

Dydd Gwener 8 Rhagfyr  

Ym mis Hydref fe wnaethom gynnal digwyddiad Sgwrs Hinsawdd Ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid y Fro. Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r camau y mae'r Cyngor yn ymrwymo i'w cyflawni yn 2024 mewn ymateb i'r profiadau a'r syniadau a rannwyd yn y digwyddiad hwn. 

Bydd ein Calendr Adfent o 4 - 8 Rhagfyr hefyd yn cael ei neilltuo i brosiectau neu swyddogion sydd wedi cyfrannu at Brosiect Sero eleni. 

Os oes gennych brosiect a fyddai'n elwa o gyllid ychwanegol cofiwch y gallwch wneud cais am arian o gronfeydd wrth gefn y prosiect sero. Y dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau yn 2024 fydd:

  • Dydd Llun 8 Ionawr ar gyfer panel 31 Ionawr
  • Dydd Llun 1 Ebrill ar gyfer panel 22 Ebrill
  • Dydd Llun 8 Gorffennaf ar gyfer panel 31 Gorffennaf
  • Dydd Llun 30 Medi ar gyfer panel 23 Hydref

Os ydych yn dymuno gwneud cais am gyllid, darllenwch Ganllawiau Cronfeydd Wrth Gefn Prosiect Sero a chwblhewch Profforma Prosiect Sero.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ProjectZero@valeofglamorgan.gov.uk.