Staffnet+ >
Neges Diwedd y Flwyddyn Gan Y Prif Weithredwr a'r Arweinydd

Annwyl gydweithwyr,
Mae wedi dod yn arfer safonol yn y blynyddoedd diwethaf i agor ein neges diwedd blwyddyn i staff drwy nodi pa mor ddigynsail y bu'r deuddeg mis diwethaf. Wrth edrych yn ôl ar 2023 i ysgrifennu'r neges hon, yr hyn oedd fwyaf amlwg yw pa mor gyffredin y mae goresgyn heriau digynsail wedi dod i Dîm y Fro erbyn hyn. Cefnogi ein cymunedau drwy amgylchiadau na allai unrhyw un fod wedi eu rhagweld yw ein harfer safonol erbyn hyn a ledled y Fro gallwn weld tystiolaeth o’n timau yn gweithio i wneud bywyd yn fwy disglair i'r preswylwyr rydym yn eu gwasanaethu.
Yn gynharach y mis hwn, anfonom e-gerdyn Nadolig wedi'i animeiddio at wleidyddion a phartneriaid ledled y wlad i arddangos peth o waith mwyaf dylanwadol y Cyngor yn 2023. Yn ogystal â chaniatáu i ni ddangos beth sy'n gwneud ein Cyngor mor arbennig, mae hefyd yn helpu i ddangos sut mae ein sefydliad yn croesawu newid ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu'r hyn y gwyddom sy'n bwysig i bobl y Fro.

Eleni rydym wedi parhau i roi mannau hwyl a diogel i bob cymuned chwarae trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau fel yr ardal chwarae coetir newydd ym Mhorthceri, ardal chwarae Dewi Sant ym Mhenarth, a pharc sglefrio Cronfa Goffa Richard Taylor ar ei newydd wedd yn y Cnap. Mae 2023 hefyd wedi gweld enghraifft wych o sut y gall newid y ffordd y mae pobl yn defnyddio lleoedd drawsnewid cymunedau gyda phobl o bob oed yn mwynhau'r ‘strydoedd chwarae' a wnaed yn bosibl gan gynllun peilot i gau ffyrdd.
Mae ein Cyngor ni yn credu bod gan bawb yr hawl i gartref ac mae'r cerdyn yn dangos cynnydd ein rhaglen adeiladu tai Cyngor newydd, gan gynnwys llety arbenigol i bobl hŷn a ffoaduriaid o Wcráin. Bydd y gwaith hwn yn cynyddu yn 2024, wrth i ni anelu at fynd i'r afael â'r argyfwng tai a digartrefedd yn uniongyrchol.

Mae natur newidiol llywodraeth leol yn golygu y bydd ein gwaith yn canolbwyntio fwyfwy ar yr unigolion hynny sydd ein hangen fwyaf. Fodd bynnag, y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i bob cartref yn y Fro fydd ein mwyaf gweladwy bob amser ac yn 2023 roeddent hefyd yn rhai o'n henghreifftiau gorau o sut y gallwn newid y ffordd rydym yn gweithio i ddarparu Bro well ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ym mis Ebrill fe wnaethom gyflwyno casgliadau ailgylchu wedi'u gwahanu ym Mhenarth a'r ardaloedd cyfagos i helpu preswylwyr i ailgylchu hyd yn oed yn fwy a chadw'r Fro yn agos at frig y tabl ailgylchu yng Nghymru a’r byd!
Bro werddach a mwy cynaliadwy fydd ffrwyth llawer o'r gwaith rydym wedi'i ddechrau eleni. Mae mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur bellach yn ffactorau i gymaint o'r hyn a wnawn fel Cyngor. Er mai'r enghreifftiau amlwg o’n gwaith, fel ein cyfleusterau ailgylchu newydd, ein hysgolion carbon niwtral a'n fflyd cerbydau trydan, yw'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei weld o bosibl, mae cynlluniau fel Adfer y Ddawan, a lansiwyd ym mis Tachwedd, yn gwneud y gwahaniaeth hanfodol ar lefel gymunedol trwy roi cyfle i genedlaethau'r dyfodol ddysgu sut i amddiffyn ein cynefin naturiol ar gyfer y dyfodol.

Mae timau'r Cyngor yn gwella bywydau cenedlaethau'r dyfodol go iawn trwy waith ein hysgolion. Roedd 2023 yn flwyddyn arall o waith rhagorol ganddynt. Drwy agor Ysgol Derw Newydd ac Ysgol Sant Baruc, dangoswyd ein bod yn parhau i ymrwymo i ddarparu cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf i blant a phobl ifanc. Yna roedd cydnabod Ysgol Gynradd Tregatwg fel un o'r ysgolion gorau yn y byd yn dangos yn union beth all ein cydweithwyr ei wneud pan roddir y rhyddid a’r gefnogaeth iddynt wneud gwahaniaeth. Ac eto eleni fe wnaeth y gwaith rhyfeddol a wnaed yn Ysgol y Deri gipio calonnau'r genedl a dangos i bawb pa mor werthfawr y gall gwaith staff y Cyngor fod.
Mae ein rhaglenni digwyddiadau hefyd yn hysbysebion blynyddol i'r awdurdod lleol ac yn ein galluogi i gynnig gweithgareddau rhad ac am ddim a chost isel i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r lluniau o blant yn mwynhau'r Haf o Hwyl a thorfeydd mawr yn Ynys y Barri ar gyfer Gŵyl Fach y Fro yn dangos ffordd arall y mae gwaith ein timau yn dod â llawenydd.

Bydd mannau cyffredin i bobl ddod at ei gilydd ac i grwpiau lleol gyfarfod bob amser yn hanfodol i gymunedau. Uchafbwynt go iawn i'r ddau ohonom yn 2023 oedd agor pafiliwn newydd Belle Vue ym mis Awst. Roedd yn wych, nid yn unig oherwydd bod y lleoliad ei hun wedi cael ei adnewyddu i safon mor uchel, ond hefyd oherwydd bod y model newydd yr ydym wedi'i sefydlu i'w gynnal gyda'r gymuned leol yn rhoi glasbrint ar gyfer diogelu canolfannau cymunedol gan hefyd rymuso mwy o drigolion y Fro i gymryd rheolaeth o'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Os hoffech chi weld sut beth yw hyn yn ymarferol, bydd y Pafiliwn yn cynnal cyngerdd carolau nos Wener 22 Rhagfyr am 6pm gyda diod ddi-alcohol a mins peis am ddim.
Mae ein sefydliad ni’n un sy'n ymfalchïo yn ei gynwysoldeb ac mae ein dathliad o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth a Pride Cymru ym mis Mehefin yn enghreifftiau gwych o sut rydym yn dangos trwy ein staff ein hunain beth mae hynny'n ei olygu. Mae lansio rhwydwaith staff ABL newydd y mis hwn yn arwydd y bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni yn 2024. Mae'r newyddion yr wythnos diwethaf bod y Fro wedi'i derbyn i Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Cymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn yn dangos sut mae ein gwerthoedd yn disgleirio drwodd i waith ein timau a'r ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau.
Mae'r e-gerdyn fideo yn dod i ben gydag Achos Siôn Corn – enghraifft wych arall o ysbryd cadarnhaol Tîm y Fro a phrosiect sydd hefyd yn dangos bod llawer o ffyrdd y gallwn wneud y gorau o’r ymdeimlad o garedigrwydd a haelioni sy'n gwneud y Fro mor unigryw er mwyn helpu'r rhai sydd ein hangen fwyaf. Mae hefyd wrth gwrs yn ein hatgoffa o'r nifer fawr o bobl agored i niwed sy'n byw yn y Fro sydd angen ein cefnogaeth am amrywiaeth eang o resymau. Mae gwaith ein timau Gwasanaethau Cymdeithasol am resymau amlwg yn mynd rhagddo i ffwrdd o lygad y cyhoedd fel arfer, ond nid ydym byth yn anghofio gwerth ac effaith eu gwaith.
Mae'r prosiectau hyn i gyd yn enghreifftiau ardderchog o'r hyn sy'n gwneud Cyngor Bro Morgannwg yn sefydliad mor arbennig ac yn lle gwych i weithio. Maen nhw'n dangos Tîm y Fro ar ei orau. Maen nhw'n dangos ein pobl - chi - yn rhoi popeth o fis Ionawr i Ragfyr bob blwyddyn i sicrhau, yn y cyfnod ansicr hwn i'r sector, bod y Cyngor, yn ogystal â goroesi, yn ffynnu. Chi sy'n gwneud hyn oll yn bosibl ac yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau'r rhai sy'n byw yn y Fro. Dyma beth yw gwasanaeth cyhoeddus a dylai pawb fynd i mewn i wyliau'r Nadolig gan deimlo'n falch iawn o'u gwaith yn 2023.
Rydym yn gwybod na fydd y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd o reidrwydd yn golygu seibiant i bawb. Hoffem roi teyrnged arbennig i'r staff rheng flaen hynny fydd yn parhau i weithio dros y pythefnos nesaf, yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed, yn cynnal cartrefi, adeiladau cyhoeddus, a mannau cyhoeddus eraill er mwyn i bobl allu eu mwynhau.
I bawb arall gobeithiwn y cewch gyfle i orffwys, adfywio ac ymlacio gyda'ch anwyliaid. Diolch am bopeth rydych chi wedi'i roi i'r Fro yn 2023.
Nadolig llawen a blwyddyn newydd iach i chi i gyd.
Rob Thomas a’r Cynghorydd Lis Burnett