Staffnet+ >
Mae ceir cronfa trydan bellach ar gael yn y Swyddfeydd Dinesig
Mae ceir cronfa trydan bellach ar gael yn y Swyddfeydd Dinesig
Y llynedd, derbyniodd y Cyngor ei set gyntaf o gerbydau cwbl-drydan.
Yn unol â nodau Prosiect Sero, mae cerbydau trydan Hyundai Kona wedi disodli nifer o'r ceir diesel yn ein fflyd ceir, gan leihau ein hallyriadau gan 26,304kg bob blwyddyn.
Erbyn hyn mae'r cerbydau ar gael fel rhan o Gynllun Ceir Cronfa’r Cyngor yn y swyddfeydd dinesig a swyddfeydd yr Alpau.
Mannau parcio
Y llynedd fe wnaethom osod sawl pwynt gwefru trydan ym maes parcio staff y Swyddfeydd Dinesig. Bydd tri o'r rhain nawr yn cael eu cadw ar gyfer ceir cronfa trydan YN UNIG.
Gorchuddir y pwyntiau gwefru nad ydynt yn cael eu defnyddio. Os ydych yn gyrru i'r Swyddfeydd Dinesig yn eich car eich hun, sicrhewch eich bod yn parcio mewn man heb bwynt gwefru neu gyda phwynt gwefru sydd wedi’i orchuddio.
Gwefru cerbydau trydan
Rydym wedi creu fideo byr yn egluro beth i'w wneud wrth gasglu allweddi ar gyfer eich car trydan:
Chi sy’n gyfrifol am wefru cerbyd trydan yr ydych yn ei archebu.
Cedwir ceblau gwefru mewn bag du ym mŵt y ceir.
I wefru’r cerbyd, sganiwch y ffob ar y darllenydd cardiau ar y pwynt gwefru a phwyso'r botwm gwyrdd.
Nesaf, dylech godi'r caead gwyrdd a chysylltu'r cebl gwefru â'r pwynt gwefru.
Gan sicrhau bod y car heb ei gloi, agorwch yr hatsh wefru ar flaen y car, tynnu'r plwg a mewnosod pen arall y cebl gwefru.
Pan fydd y cysylltiad yn ddiogel, bydd yr hatsh wefru’n goleuo'n wyrdd ac yn arddangos mesurydd batri.
Cyn tynnu'r cebl, dylech sganio'r ffob eto, ond y tro hwn pwyswch y botwm 'stop' coch ar y pwynt gwefru.
Ni fyddwch yn gallu tynnu'r cebl oni bai bod y car heb ei gloi.
Gwybodaeth bwysig am wefru cerbydau
Sicrhewch mai dim ond un car cronfa sy'n cael ei blygio i mewn i un uned wefru ar un adeg. Ar hyn o bryd, ni ellir defnyddio'r pwyntiau gwefru i wefru mwy nag un cerbyd ar un adeg.
Cofiwch roi’r cebl gwefru yn ôl ym mŵt y car ar ôl gorffen gwefru.
Gallwch ddysgu mwy am archebu car cronfa ar Staffnet.