Staffnet+ >
Coblynnod Siôn Corn yn gweithio'n galed
Coblynnod Siôn Corn yn gweithio’n galed
14 Rhagfyr 2023
Dros y mis diwethaf, rydyn ni wedi bod yn derbyn rhoddion o anrhegion a chyfraniadau ariannol ar gyfer Achos Siôn Corn.
Diolch i'ch haelioni a chefnogaeth busnesau'r Fro, rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i ddarparu rhodd i bob plentyn a allai fod heb un fel arall, y Nadolig hwn!
Wedi'u tanio gan alawon Nadoligaidd a mins peis, mae cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor wedi bod yn brysur yn pacio bagiau anrhegion i bob plentyn sy'n barod i weithwyr cymdeithasol eu danfon i deuluoedd a gofalwyr mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr.
Byddwn yn pacio anrhegion tan ddydd Gwener 14 felly dyw hi ddim yn rhy hwyr i gyfrannu os ydych chi'n dymuno - bydd y coblynnod yn croesawu rhoddion yn y gweithdy (a elwir yn ffurfiol yr ystafell TG ar ail lawr y Swyddfeydd Dinesig) tan hynny.
Yn ysbryd gwir y Fro mae Achos Siôn Corn wedi bod yn ymdrech gydweithredol enfawr, ond mae gennym eiriau o ganmoliaeth yn arbennig i i'r cydweithwyr hynny sydd wedi mynd y tu hwnt i gefnogi'r ymgyrch:
Michael Harney
- Hen Goleg staff
- Julia Esseen
- Claire James (and her grandaughter Mercedes)
- Lynne Clarke
- Cartref Porthceri staff
- Debbie Maule
- Vale Sports and Play team volunteers
- Christine Banfield
- Family Information Service team volunteers
- Community Development team volunteers
- Amy Rudman
- Contact centre volunteers
- Sarah Tudball
- Social Care Workforce Development team volunteers
P'un a wnaethoch rannu'r achos ar y cyfryngau cymdeithasol, rhoi anrheg, cyfrannu arian, cynnig eich gwasanaethau neu helpu i gydlynu'r ymgyrch, oddi wrthym a’r cannoedd o deuluoedd ar draws y Fro… Diolch yn fawr!