Archebu Lleoedd ar Ddesgiau ac Ystafelloedd Cyfarfod ac Awyru mewn Ystafelloedd
Dylid trafod y defnydd o ddesgiau a lleoedd gwaith unigol mewn swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod rhwng aelodau'r tîm a rheolwyr a dylid cymryd gofal bod unrhyw le yn cael ei ddefnyddio'n briodol gan ystyried yr angen i gadw pellter cymdeithasol.
Bydd angen i reolwyr llinell ddefnyddio eu disgresiwn wrth ddyrannu lleoedd ar ddesgiau ac mewn swyddfeydd, ac ystyried a fyddai defnyddio ardaloedd cyfarfod mwy yn fwy priodol wrth ddod â thimau at ei gilydd. Er enghraifft, os yw tîm cyfan yn dymuno cyfarfod i drafod heriau, perfformiad neu faterion penodol eraill sy'n gysylltiedig â gwaith, efallai y byddai'n briodol i dimau gyfarfod mewn lleoliad sydd i ffwrdd o'u gweithle arferol er mwyn sicrhau lle i bawb yn ddiogel. Mae mannau unigol mewn swyddfeydd wedi'u hasesu eisoes ar gyfer nifer y bobl gall weithio yno’n ddiogel ar unrhyw un adeg.
Dylai cydweithwyr barhau i dalu sylw i’r rhifau hyn fel canllaw ac ystyried y cyngor isod a'r cyngor yn ymwneud â hylendid a chadw pellter cymdeithasol.
Mae asesiad risg wedi bod ar waith ar gyfer swyddfeydd drwy gydol y pandemig a bydd hyn yn cael ei ddiweddaru ymhellach i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.
- Dylai desgiau gael eu glanhau'n drylwyr gan bob defnyddiwr gyda hylif glanhau feirysol o gryfder priodol neu fel arall, hancesi diheintio a ddarperir ar ddechrau a diwedd pob eisteddiad, boed hynny'n ddiwrnod neu'n rhan o ddiwrnod.
- Bydd hylif glanhau feirysol, clytiau tafladwy a weips ar gael mewn swyddfeydd ar gyfer pob defnyddiwr desg.
- Dylid cadw desgiau'n glir o'r holl offer (ac eithrio sgriniau cyfrifiadurol os oes angen, ar yr amod bod y mannau cyffwrdd yn cael eu glanhau) i gynorthwyo gyda safonau glendid.
- Dylid osgoi cyfnewid gweithfannau yn ystod y dydd drwy gydol y cyfnod dros dro hwn gan na ddylai hyn fod yn angenrheidiol o gofio nifer y bobl fydd angen defnyddio swyddfeydd. Fodd bynnag, caniateir rhannu desgiau'n ofalus o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Nad oes gofod rhesymol arall ar gael i ganiatáu i ddesgiau gael eu defnyddio'n unigol.
- Nad yw desgiau'n cael eu rhannu'n rhy aml (dim mwy na 2 berson y dydd). Rheolwyr sy'n gyfrifol am weithredu system rota y gellir ei holrhain ar gyfer meddiannu desgiau.
- Dylid hefyd osgoi defnyddio ffaniau desg yn ystod y cyfnod hwn.
- Os oes angen defnyddio llungopïwyr dylid eu sychu cyn eu defnyddio ac wedi hynny gyda’r weips diheintio a ddarperir.
- Dylai pob ystafell gael ei hawyru'n dda gyda ffenestri a drysau ar agor lle bynnag y bo modd ar gyfer llif aer di-dor.