Hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi

Gyda chostau byw cynyddol mae cymorth ychwanegol gyda threuliau yn dod yn bwysicach nag erioed. Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallent fod â hawl i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt.

Gwirio eich hawl i gael budd-daliadau

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell fudd-daliadau ar-lein i gael gwybod am y budd-daliadau y gallwch eu cael. Peidiwch â chymryd yn ganiataol na fydd gennych hawl i gael unrhyw beth.

Bydd angen gwybodaeth am gynilion, incwm, pensiwn, taliadau gofal plant ac unrhyw fudd-daliadau presennol (i chi a'ch partner).

 

Gostyngiad y Dreth Gyngor

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael Gostyngiad y Dreth Gyngor. Edrychwch i weld a oes gennych hawl i gael disgownt ar eich bil treth gyngor.

Gostyngiad y Dreth Gyngor

Budd-dal Tai

Os ydych ar incwm isel, efallai y bydd modd i chi gael help gyda'ch rhent. Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai:

Budd-dal Tai

 

Budd-daliadau anabledd

Nid yw gweithio yn atal hawl i gael Taliadau Annibyniaeth Bersonol y budd-dal anabledd.

Os oes gennych anabledd neu nam sy'n effeithio ar sut rydych yn byw eich bywyd, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ychwanegol. Nid yw bod ag anabledd yn golygu'n awtomatig bod gennych hawl ond os yw eich cyflwr yn effeithio’n sylweddol ar eich gallu i wneud pethau y mae pobl eraill yn eu gwneud, yna gallwch wneud hawliad.

Dylech hefyd ystyried hawlio ar gyfer pobl eraill yn eich cartref sydd ag anableddau, er enghraifft partner nad yw'n gweithio (gall barhau i gael y budd-dal hwn hyd yn oed os ydych yn gweithio).

Gallwch hefyd hawlio Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plant a gall pensiynwyr sy'n byw gyda chi hawlio Lwfans Gweini. 

 

Rhyddhad Treth 

Mae rhyddhad a lwfansau treth ar gael, y gellir ôl-ddyddio rhai ohonynt hyd at 5 mlynedd neu at pan ddechreuoch weithio. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Lwfans Cyplau Priod

  • Lwfans Golchi Dillad

  • Lwfans Dillad ac Offer Arbenigol

  • Gweithio Gartref