Staffnet+ >
Gwneud cais nawr am gyllid Cronfeydd Wrth Gefn Prosiect Sero
Gwneud cais nawr am gyllid Cronfeydd Wrth Gefn Prosiect Sero
Mae nifer o gronfeydd wrth gefn a gefnogai waith ar newid yn yr hinsawdd wedi cael eu dwyn ynghyd yn un gronfa wrth gefn Prosiect Sero a fydd yn helpu i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cynllun Her Newid yn yr Hinsawdd.
Mae Bwrdd Prosiect Sero yn ystyried cynigion am gyllid i gefnogi prosiectau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at Brosiect Zero ac yn helpu i leihau ein hallyriadau carbon.
Fel arfer, gellir gwneud cais am symiau o dan £5k ar unrhyw adeg ac mae cynigion am £5k a throsodd yn cael eu hystyried gan banel o Fwrdd Prosiect Sero.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddyddiadau wedi'u pennu ar gyfer cyflwyno ac ystyried cynigion. Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru cyn gynted ag y bydd dyddiadau wedi'u pennu ar gyfer derbyn ac ystyried cynigion newydd.
Ymhlith yr ardaloedd lle gellir targedu allyriadau carbon mae lleihau defnydd ynni a dŵr mewn adeiladau, cynyddu bioamrywiaeth ac ardaloedd gwyrdd, galluogi teithio llesol, lleihau'r defnydd o betrol a disel mewn trafnidiaeth, lleihau teithio busnes a chymudo mewn car, lleihau gwastraff, a hyrwyddo ailddefnyddio i leihau ein gwariant caffael.
I gael arweiniad ar sut i wneud cais am gronfeydd wrth gefn Prosiect Sero, defnyddiwch y dogfennau isod.
Cyswllt