Staffnet+ >
Oracle Fusion Diweddaru eich manylion

Oracle Fusion: Diweddaru eich manylion
Mae Oracle Fusion yn caniatáu i staff reoli eu manylion personol eu hunain.
Nawr gellir diweddaru'r rhain gan ddefnyddio dyfeisiau corfforaethol (e.e. gliniaduron gwaith), dyfeisiau personol a'r ap ffonau symudol. Felly, byddem yn annog ein holl staff i wirio'n rheolaidd bod eu manylion yn gyfredol.
Gyda'r system Oracle Fusion newydd bellach ar waith, rydym yn gofyn i staff adolygu eu manylion, diweddaru'r rhain lle bo angen, a darparu unrhyw wybodaeth sydd ar goll.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Rhaid i bob aelod o staff adolygu a diweddaru eu manylion personol erbyn 15 Ebrill 2024. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i wneud hyn isod.
I adolygu a diweddaru'r manylion sydd gennym ar eich cyfer, gan gynnwys manylion cyswllt a gwybodaeth bersonol, mewngofnodwch i Fusion a dilynwch y canllaw cam wrth gam:
Canllaw cam wrth gam ar gyfer adolygu eich manylion yn Oracle Fusion
Sicrhewch eich bod yn cwblhau'r holl wybodaeth ofynnol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, y datganiad o berthnasoedd personol yn y gwaith. Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn ymwybodol o'r perthnasoedd hyn fel y gallwn gefnogi’n briodol unrhyw feysydd o wrthdaro posibl.
Wrth ddiweddaru eich gwybodaeth bersonol, cymerwch amser hefyd i ddarllen ein polisi diweddaraf ar anrhegion neu letygarwch ac arweiniad ar beth i'w wneud pe baech yn cael cynnig unrhyw rai wrth wneud eich rôl.
Pam mae angen y wybodaeth hon arnom?
Mae'r wybodaeth hon yn bwysig i'n helpu i ddeall proffil ein staff, y bobl sy'n rhan o'n timau, a'r hyn y gallwn ni fel sefydliad ei wneud i sicrhau bod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Bydd gwell dealltwriaeth o'n staff yn cefnogi ein rhwydweithiau staff, fel y Grŵp Anableddau, Diverse a GLAM, gyda’u gwaith i godi ymwybyddiaeth a chefnogi gweithwyr i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'r Cyngor, ei amgylchedd gwaith a'r cymunedau amrywiol rydym yn eu cynrychioli.
Mae'r wybodaeth hefyd yn helpu ein tîm Adnoddau Dynol i ddefnyddio'r polisïau corfforaethol sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel a chyda'n hadroddiadau dienw blynyddol i Lywodraeth Cymru.
Pwy all weld fy ngwybodaeth bersonol?
Mae cyfrinachedd eich gwybodaeth bersonol yn hanfodol, yr unig gydweithwyr fydd yn gweld eich gwybodaeth yw defnyddwyr proffesiynol o Adnoddau Dynol a’r Adran Gyllid y mae'n ofynnol iddynt ddefnyddio'r data at ddibenion adrodd a phrosesu.
Eisiau gwybod sut i ddefnyddio Oracle Fusion?
Mae hyfforddiant Gwybodaeth Bersonol Fusion ar gael ar idev:
Cwrs: Oracle Fusion - Hunanwasanaeth Cyflogai (learningpool.com)
Cwrs: Oracle Fusion - Hunanwasanaeth Rheolwr (learningpool.com)
Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyb Oracle Fusion ar Staffnet+ neu cysylltwch â’ch Hyrwyddwr Fusion.