Cyfres Teuluoedd LHDTC+ Ar-lein – Sesiwn Pride Arbennig - Teulu Dewisol a Chymuned.Dydd Mercher 19 Mehefin 2024
11:00am i 12:30pm
Mae rhwydweithiau LHDTC+ o Gyngor Caerdydd a Bro Morgannwg yn cydweithio i ddarparu cyfres o sesiynau addysgiadol ar Deuluoedd LHDTC+ gyda rhai siaradwyr gwadd arbennig ar Microsoft Teams.
Bydd ein hail sesiwn yn archwilio pwnc 'Teulu Dewisol a Chymuned' i ddathlu Mis Pride. Bydd siaradwyr mewnol o'n cynghorau, sy’n hwyluso mentrau ymgysylltu cymunedol LHDTC+ amrywiol, yn ymuno â ni (o fentrau ieuenctid a phobl o liw LHDTC+) yn ogystal â siaradwr allanol o The Queer Emporium. Bydd y sesiwn hon hefyd yn cynnwys adran Holi ac Ateb tua'r diwedd.
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb sy’n dymuno gwybod beth sydd ar gael i bobl LHDTC+ deimlo'n llai ynysig a chael ymdeimlad o gymuned.
Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod
Os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â: RhwydwaithLHDT@caerdydd.gov.uk
Nodwch mai digwyddiad wedi'i recordio fydd hwn. Fel digwyddiad Rhwydwaith Gweithwyr, gallwch fynychu fel rhan o'ch diwrnod gwaith, yn amodol ar Ddarpariaeth Gwasanaethau. Rhowch wybod i'ch rheolwr llinell. Nid oes angen i weithwyr ar y Cynllun Fflecsi allgofnodi cyn mynd i’r digwyddiad.