Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 20 Hydref 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
20 Hydref 2023
Annwyl gydweithwyr,
Mae hi wedi bod yn wythnos arall o waith gwych gan y Cyngor - gyda staff yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl i helpu ein trigolion a'n cymunedau.
Fel bob tro, hoffwn rannu rhai o'r straeon hyn a’ch annog i gysylltu â mi os ydych chi’n credu bod aelod o staff neu dîm penodol yn haeddu cydnabyddiaeth.
Rydym wedi bod yn nodi Wythnos Ailgylchu Genedlaethol ers dydd Llun, gan ymuno ag ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha Wrap Cymru, sy'n annog pobl i fanteisio i’r eithaf ar botensial llawn ailgylchu gwastraff bwyd.
Rydym yn ymwybodol o fanteision ailgylchu yng Nghymru. Dyna pam ein bod ymhlith y tair gwlad gorau yn y byd o ran ailgylchu ei gwastraff.
Ond y nod yw mynd hyd yn oed ymhellach a chyrraedd y brig, ac un ffordd o wneud hynny yw ailgylchu yn y gweithle yn ogystal ag yn y cartref.
Gall newid sut mae gwastraff bwyd yn cael ei drin gael effaith fawr.
Er bod bron pawb yn gwybod y dylid rhoi gwastraff bwyd mewn cadi penodol, mae'n dal i lenwi chwarter ein biniau sbwriel cartref cyffredin ac mae'r ffigur hwn yn aml yn uwch yn y gweithle.
Gyda hyn mewn golwg, hoffwn dynnu sylw cydweithwyr at y biniau gwastraff bwyd a ddarperir yn y gwaith ac annog pawb i'w defnyddio.
Dylid rhoi gwastraff bwyd na ellir ei fwyta yn y cadi i'w ailgylchu, gan gynnwys bagiau te, plicion ffrwythau a llysiau, esgyrn, plisg wyau a hyd yn oed bwyd sydd wedi llwydo.
Mae modd troi gwastraff bwyd yn ynni adnewyddadwy a chrëwyd digon o ynni yng Nghymru y llynedd i bweru 10,000 o gartrefi.
Gall naw croen banana greu digon o drydan i wefru gliniadur yn llawn, mae chwe bag te wedi'u hailgylchu yn creu digon o ynni i weithio paned arall a gall un cadi llawn gwastraff bwyd bweru oergell am 18 awr.
Hyd yn hyn mae'r Fro wedi bod ar flaen y gad yn y chwyldro gwyrdd yng Nghymru a'r targed yw parhau i wneud hynny wrth i ni wthio tuag at ein hymrwymiad Prosiect Sero i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Mae cydweithwyr yn y tîm Rheoli Gwastraff wedi bod yn ganolog i'r llwyddiant hwnnw, a hoffwn ddiolch am y newidiadau sylweddol y maent wedi'u goruchwylio eleni.
Mae'r rheiny'n cynnwys cyflwyno cynllun gwahanu deunyddiau ailgylchu yn nwyrain y Fro a gwasanaeth tanysgrifio i gasgliadau gwastraff gardd.

Ymwelodd swyddogion â Dunlin Court a Avocet Court yn y Barri ond yr wythnos hon, sef y blociau cyntaf o fflatiau yn y Fro i ddefnyddio'r system gwahanu deunyddiau ailgylchu.
Bydd y system hon yn cael ei chyflwyno i fflatiau ledled y Fro dros y misoed nesaf wrth i ni geisio parhau i ragori ar darged Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70 y cant o'n holl wastraff erbyn 2025.
Mae gwaith caled ein Timau Gwastraff wedi helpu'r Cyngor i ddod yn un o'r Awdurdodau Lleol gorau yng Nghymru o ran ailgylchu gan ein bod eisoes yn cyflawni’n uwch na'r ffigur hwnnw. Ein nod yw gwella hyd yn oed yn fwy.
Mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer y Fro yn datgelu ein bod wedi ailgylchu:
- 7,788 tunnell o fwyd
- 7,515 tunnell o wastraff gwyrdd
- 3,024 tunnell o wydr cymysg
- 2,737 tunnell o gardfwrdd
- 1,336 tunnell o bapur
- 566 tunnell o ganiau alwminiwm / dur
Gan gadw at berfformiad serennog y tîm gwastraff, roeddwn i eisiau dweud diolch yn fawr i Shaun Cousins sy'n rhan o'r adran honno ac sy’n helpu i gynnal Ynys y Barri.
Cysylltodd aelod o'r cyhoedd â ni yr wythnos hon i ganmol Shaun am ei ymdrechion a'r ffordd ddymunol y mae'n ymgysylltu ag ymwelwyr.
Disgrifiodd y person hwn Shaun fel "dyn ifanc hyfryd, cwrtais" sy’n "glod ac ased i'r Cyngor ac sy'n mynd y tu hwnt i bob disgwyl".
Gaf i achub ar y cyfle hwn i adleisio'r teimladau hynny a diolch unwaith eto i Shaun am ei ymrwymiad a'i broffesiynoldeb.
Mae gan staff ar y rheng flaen sy'n rhyngweithio'n uniongyrchol â defnyddwyr gwasanaeth rôl hanfodol i'w chwarae wrth gynrychioli'r Cyngor a'i werthoedd. Mae'r ffordd rydym yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu â thrigolion a'r cyhoedd yn ehangach yn bwysig iawn, boed hynny dros y ffôn neu'n wyneb yn wyneb.
Mae Shaun yn amlwg yn gwneud gwaith gwych yn hynny o beth, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan ein cwsmeriaid yn ogystal â gennyf fi a chydweithwyr eraill yr Uwch Dîm Arwain. Da iawn Shaun.

Sôn am Dai nawr ac, yn dilyn cyfraniad gan Ysgol Gynradd Fairfield yr wythnos diwethaf, mae Ysgol Gynradd Victoria hefyd wedi casglu nifer fawr o eitemau ar gyfer Pod Bwyd Penarth.
Casglodd Mark Ellis o'r Tîm Tai dros 100 o fagiau yn gynharach yr wythnos hon yn llawn nwyddau tun, pasta, reis, sawsiau, creision, bagiau te, coffi a mwy.
Bydd y cynhyrchion hyn ar gael o'r Pod ar St Luke's Avenue ar sail talu cymaint ag y gallwch ac maen nhw’n cyfrannu’n helaeth at helpu rhai o'n preswylwyr sydd â'r angen mwyaf, yn enwedig gyda'r gaeaf yn agosáu.
Da iawn i bawb yn Ysgol Gynradd Victoria am ddangos cymaint o haelioni a charedigrwydd.
Mae Ysgol Gynradd Victoria wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu'r Pod Bwyd o'r cychwyn cyntaf. Dyluniwyd y logo gan ddisgybl yr ysgol ac mae’r ysgol yn gwneud cyfraniadau bwyd sylweddol yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, adeg y Nadolig, y Pasg a'r Cynhaeaf.
Mae'r Cyngor wedi bod yn nodi dau ddigwyddiad arwyddocaol ym mis Hydref, sef Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron a Mis Hanes Pobl Ddu.

Ar gyfer y cyntaf, goleuwyd Twnnel Hood Road yn binc i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron ac annog pobl i gyfrannu arian i frwydro yn ei erbyn.
Nod ymgyrch Cancer Research UK yw helpu pobl i fyw bywyd mwy egnïol oherwydd gall ymarfer corff leihau'r risg o ddal y clefyd hwn gan gymaint ag 20 y cant.
Cyfarfu Aelodau'r Cabinet â henuriaid Windrush ddydd Iau i gydnabod Mis Hanes Pobl Ddu.

Mae'r flwyddyn hon yn nodi 75 mlynedd ers i’r HMT Empire Windrush lanio ym Mhrydain. Dyma un o'r llongau cludo teithwyr mawr cyntaf a ddaeth â phobl o India'r Gorllewin i Brydain.
Er mwyn nodi’r digwyddiad, mae dau fwrdd gwybodaeth o'r enw tyrau wedi’u gosod yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig am 12 wythnos, ac mae dau arall yn teithio o amgylch y Fro.
Wedi'u dadorchuddio ochr yn ochr â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, mae'r tyrau'n cynnwys straeon gan bobl sy'n gysylltiedig â'r genhedlaeth Windrush sydd wedi gwasanaethu yn y fyddin.
Ychydig wythnosau yn ôl, soniais fod tîm Nia Hollins yn awyddus i glywed gan drigolion lleol am effaith twristiaeth ar y Fro.

Nawr mae arolwg wedi’i lansio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a byddwn yn annog yr holl staff sydd â diddordeb yn y pwnc i gymryd rhan.
Nod yr arolwg yw casglu barn y rhai sy'n byw yn y Fro, ac mae prosiectau tebyg yn cael eu cynnal yng Ngwynedd a Sir Benfro, gyda chefnogaeth Croeso Cymru.
Mae'n bwysig cyfleu manteision ac anfanteision twristiaeth fel y gellir ei reoli'n gynaliadwy.
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gwblhau arolwg, a bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i lywio polisi yn y dyfodol i ddiwallu anghenion y cymunedau yn y ffordd orau.
Er mai'r pwrpas yw sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, gellir rhoi pob ymateb yn ddienw fel nad oes risg o adnabod unrhyw un, a gall y cyfranogwyr dynnu'n ôl o'r broses ar unrhyw adeg.
Yn olaf, fel Awdurdod Lleol, rhaid i ni fod yn barod bob amser ar gyfer digwyddiad mawr ar garreg ein drws, boed hynny'n llifogydd, tywydd garw, mater amgylcheddol neu anrhefn gymunedol i enwi ond ychydig.
Mae ein Tîm Cynllunio ar gyfer Argyfwng (y cyfeirir ato'n aml fel y tîm Amddiffyn Sifil) yn un o'r rhai mwyaf profiadol yng Nghymru. Rydw i bob amser yn edmygu y ffordd y gall Debbie Spargo a'i chydweithwyr gydlynu ymateb y Cyngor mewn argyfwng.
Wedi dweud hynny, mae llawer o waith da yn mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni. Treuliais ddau ddiwrnod mewn digwyddiad hyfforddi yr wythnos hon gyda chydweithwyr o Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Brys o bob rhan o Dde Cymru.
Yr hyn a'm gwnaeth yn hynod falch oedd y ffaith bod llawer o'r gwaith trefnu ar gyfer y cwrs ac yn ystod y cwrs wedi'i wneud gan Melanie Haman o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De, sy’n gweithio gyda ni yn nhîm Debbie yng Nghyngor Bro Morgannwg.
Gwnaeth Melanie, gyda chymorth Debbie a chydweithwyr eraill o'r tîm, waith gwych wrth drefnu'r digwyddiad, gan ddangos y rôl bwysig yr ydym yn ei chwarae yn rhanbarthol o ran Amddiffyn Sifil. Da iawn a diolch.
Rwy’n cloi fel bob amser drwy ddiolch i chi am eich ymdrechion yr wythnos hon – rydw i a’r Uwch Dîm Arwain yn eu gwerthfawrogi'n fawr iawn, ond yn bwysicaf oll rydych chi’n gwneud gwahaniaeth i breswylwyr.
Gobeithio y cewch chi benwythnos braf a hwyliog.
Diolch yn fawr iawn,
Rob