Mis Hanes Pobl Ddu 2023
Mis Hydref yw Mis Hanes Pobl Ddu. Nod y dathliad cenedlaethol hwn yw hyrwyddo a dathlu cyfraniadau Pobl Ddu i gymdeithas Prydain, a meithrin dealltwriaeth o hanes Pobl Ddu.
Y thema eleni yw 'Anrhydeddu’r Merched' a'r mudiad #WEMATTER.
Mae pobl ddu bob amser wedi bod ar flaen y gad o ran mudiadau cyfiawnder cymdeithasol, gan ymladd yn erbyn gormes a pharatoi'r ffordd ar gyfer newid. Fodd bynnag, er gwaethaf eu cyfraniadau di-ri i gymdeithas, mae cyflawniadau menywod du, yn benodol, wedi cael eu hanwybyddu neu eu hanghofio'n rhy aml. Dyna pam, eleni, y byddwn yn dathlu cyflawniadau eithriadol menywod du.
Mae’r thema 'Anrhydeddu’r Merched' yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae menywod du wedi'i chwarae wrth lunio hanes, ysbrydoli newid, a chreu cymunedau. Bydd y dathliad eleni yn arddangos menywod du arloesol sydd wedi gwneud cyfraniadau rhyfeddol i lenyddiaeth, cerddoriaeth, ffasiwn, chwaraeon, busnes, gwleidyddiaeth, y byd academaidd, gofal cymdeithasol ac iechyd, a mwy.
Byddwn yn edrych ar ein hanes lleol ein hunain ac yn talu teyrnged i Gwenllian Hinds-Payne. Ganwyd Gwen yn y Barri ym 1917 ac fe'i hetholwyd yn Gynghorydd benywaidd Du gyntaf Cymru ym 1972. Gwasanaethodd Gwen hefyd fel cymar i’w brawd, Darwin Hinds, pan gafodd ei ethol yn Faer Bro Morgannwg ym 1975. Darwin oedd Cynghorydd Du a Mwslimaidd cyntaf Cymru pan gafodd ei ethol gyntaf ym 1958.
Roedd teulu'r Hinds yn un o arloeswyr gwleidyddol cymuned y Caribî yn Ne Cymru, a dyna pam mae'n bwysig ein bod yn talu teyrnged i Gwen a'i hetifeddiaeth. Yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn rhannu proffil ar Gwen gyda chi gyd.
Diverse yn cwrdd â Junior Diverse
Y mis hwn, bydd Diverse hefyd yn cynnal eu cyfarfod swyddogol cyntaf gyda Grŵp Junior Diverse Ysgol Gynradd Heol Holltwn. Cynhelir y cyfarfod hwn am 1.30pm ddydd Mawrth 24 Hydref yn Ysgol Heol Holltwn.
Bydd y cyfarfod hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion rannu eu profiadau a'u syniadau gyda'r Cyngor, felly dewch draw i gwrdd â'r myfyrwyr.

Dewch i weld y Tyrau Windrush 75 yn y swyddfeydd dinesig
Ddoe, gwahoddwyd aelodau o gymuned hŷn Windrush i'r Swyddfeydd Dinesig ar gyfer dadorchuddio Tyrau Windrush 75, sy'n talu teyrnged i'r 16,000 o ddynion a menywod Du Caribïaidd a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd.
Bydd y Tyrau, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth gan Amgueddfa Genedlaethol Windrush a'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yng nghyntedd y Swyddfeydd Dinesig i chi eu gweld am y 12 wythnos nesaf. Gallwch ddysgu mwy am rai o'r dynion a'r menywod anhygoel o gymunedau Caribïaidd ledled y DU a wasanaethodd i amddiffyn ein gwlad.
Cystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol a gynhelir gan Fis Hanes Pobl Ddu’r DU
Mae Mis Hanes Pobl Ddu’r DU hefyd yn cynnal Cystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol.
Mae'r gystadleuaeth yn agored i bob myfyriwr cynradd, uwchradd, chweched dosbarth a phrifysgol ledled y DU, yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd sydd am gymryd rhan.
Gallwch ysgrifennu a chyflwyno cerdd am fenyw ddu arloesol sydd wedi cael effaith yn eu dewis faes, gan esbonio pam eu bod yn ysbrydoliaeth i chi. Mae menywod du wedi gwneud cyfraniadau anhygoel i lenyddiaeth, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, gwleidyddiaeth, gofal cymdeithasol, nyrsio a meddygaeth, a mwy.
Ond nid oes rhaid i'r cerddi fod am fenywod Du enwog, gallant hefyd ymwneud â'r arwyr bob dydd sy'n eich ysbrydoli, fel eich ffrindiau neu aelodau o'ch teulu, aelodau o'r gymuned, cydweithwyr neu hyd yn oed am eich profiadau eich hun fel menyw Ddu.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y gystadleuaeth, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 15 Tachwedd.
Gallwch ddysgu mwy am y gystadleuaeth farddoniaeth ar y wefan Black History Month.
Gellir anfon ceisiadau o’r ddolen hon.