Wythnos Ailgylchu 2023: Ymunwch â’n hymgyrch i gael Cymru i #1 am ailgylchu

Mae 16 – 22 Hydref yn Wythnos Ailgylchu. I gyd-fynd â'r ymgyrch ledled y DU, yr wythnos hon, mae Wrap Cymru wedi lansio eu hymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. i annog pob un ohonom i harneisio gwir bŵer ailgylchu gwastraff bwyd

Fel cenedl, rydym yn gwybod am fanteision ailgylchu, a dyna pam mai Cymru yw'r drydedd genedl ailgylchu orau yn y byd. Mae bron pob un ohonom yn ymfalchïo mewn ailgylchu'n rheolaidd gartref, ond yn unol â'n hamcanion Prosiect Sero a'n nod o sicrhau statws carbon sero net erbyn 2030, rydym am annog ein staff i fod yn ailgylchwyr gwych yn y gwaith yn ogystal â helpu Cymru i gyrraedd y brig.

 

WRAP Food Waste Welsh AssetGwastraff bwyd yw’r maes lle gallwn wneud yr effaith fwyaf gwych – Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod y dylai gwastraff bwyd fynd i’r cadi pwrpasol, ond er hynny, bwyd yw chwarter cynnwys biniau sbwriel cartrefi. Mae’r ffigur hwn yn aml yn uwch fyth yn y gweithle.

Yn Bro Morgannwg, rydyn ni’n ymroddedig i chwarae ein rhan drwy ddarparu cyfleusterau ailgylchu bwyd i chi eu defnyddio yn y gwaith, ac ar gyfer Wythnos Ailgylchu eleni, rydyn ni’n cefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. Cymru yn Ailgylchu i adael i’n staff wybod pam y dylent osgoi rhoi gwastraff bwyd yn y bin sbwriel, bob tro.

Wyddoch chi fod eich gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu i wneud ynni adnewyddadwy? Y llynedd, ailgylchodd trigolion Cymru ddigon o wastraff bwyd i bweru mwy na 10,000 o gartrefi. Nawr mae’n amser mynd â’r arferion hynny i’r gwaith. Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw’r peth symlaf y gallwn ni oll ei wneud i daclo newid hinsawdd, boed hynny yn y swyddfa, ar y safle, yn y stiwdio, yn gweithio o gartref, neu’n gweithio ar sail hybrid.

Dylai gwastraff bwyd anfwytadwy fynd i’r cadi i’w ailgylchu bob tro – hynny yw, y bagiau te, crafion, esgyn a phlisg wyau. Mae hyd yn oed bwyd wedi llwydo – dim ots pa mor afiach – yn mynd i’r cadi gwastraff bwyd i’w ailgylchu. Cofiwch, mae gwastraff bwyd yn golygu ynni.

Allai gwastraff bwyd bweru eich gwaith? Beth bynnag fo’ch rôl, mae’n debyg eich bod yn defnyddio rhywbeth sydd angen pŵer i gyflawni eich swydd. Felly, beth yn union all gwastraff bwyd ei bweru?

  • Byrbryd cyn cinio? Wel, gall ailgylchu 9 croen banana greu digon o drydan i wefru gliniadur yn llawn, felly gallwch ymuno â’r cyfarfod hwnnw neu orffen y darn yna o waith mewn pryd.
  • Gwnewch ddisgled i’ch cydweithwyr, dim ond 6 bag te wedi’i ailgylchu mae’n ei gymryd i greu digon o ynni ar gyfer disgled arall. Dyna ofalu am y rownd nesaf!
  • Mynd â chinio i’r gwaith heddiw? Gall dim ond un llond cadi o wastraff bweru’r oergell am 18 awr, gan gadw brechdanau, potiau pasta, prydau parod neu fwyd dros ben yn ffres.
  • Mae’n amser darfod y gwaith ac ymlacio. Gallai ailgylchu croen un bwmpen bweru teledu yn ddigon hir i wylio eich ffefrynnau Calan Gaeaf un ar ôl y llall.

Hoffem ddiolch i'n cydweithwyr ym maes Rheoli Gwastraff am yr holl newidiadau y maent wedi'u goruchwylio eleni, megis cyflwyno ailgylchu sydd wedi'i wahanu i ddwyrain y Fro a'r gwasanaeth tanysgrifio gwastraff gardd.

Yn y Fro, rydym yn ymfalchïo ein bod yn un o'r ailgylchwyr gorau yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2023, enwyd Bro Morgannwg y drydedd sir ailgylchu orau yng Nghymru, gyda chyfartaledd o 70.2% o'r holl wastraff yn cael ei ailgylchu. 

Yn y flwyddyn adrodd ddiwethaf i gael ei gwirio, yn y Fro rydym wedi ailgylchu:

  • 7,788 tunnell o fwyd
  • 7,515 tunnell o wastraff gwyrdd 
  • 3,024 tunnell o wydr cymysg
  • 2,737 tunnell o gardfwrdd
  • 1,336 tunnell o bapur
  • 566 tunnell o ganiau alwminiwm / dur

P’un ai gartref neu yn y gwaith fyddwch chi, ceisiwch gadw gwastraff bwyd allan o’r bin sbwriel, bob tro.

Gallwch ddarganfod sut yn union mae gwastraff bwyd yn creu pŵer a sut galli ymuno â’r 80% ohonom sydd eisoes yn ailgylchu ein gwastraff bwyd. Ewch i Cymru yn Ailgylchu ac ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle