Staffnet+ >
Llinell gynghori 24 awr newydd ar gael i staff
Llinell gynghori 24 awr newydd ar gael i staff
07 Tachwedd 2023
Bellach mae gan bob aelod o staff fynediad at linell gynghori 24 awr newydd, sy'n cynnig cymorth ar amrywiaeth eang o faterion.
Mae’r gwasanaeth, a ddarperir gan Westfield Health, yn cynnig arweiniad cyfrinachol ar broblemau meddygol, cyfreithiol a domestig gan gwnselwyr cymwys, arbenigwyr cyfreithiol a nyrsys.
Gall helpu gyda straen, profedigaeth, anawsterau perthynas a phryderon ariannol ac mae'n hygyrch ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos drwy ffonio 0800 092 0987, rhoi rhif y cynllun, sef 72115, ac enwi'r Cyngor fel cyflogwr.
Gellir gwneud galwadau'n ddienw, ac mae eu cynnwys yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, gyda'r manylion ond yn cael eu datgelu os yw rhywun mewn perygl o niwed difrifol.
Mae'n bwysig gofalu am iechyd meddwl a lles ac mae'r Cyngor yn gwbl gefnogol i unrhyw un sydd angen cymorth yn y maes hwn.