24 Hour Advice and Information Line Banner CY

Llinell Cyngor a Gwybodaeth 24 awr

Mae gan holl weithwyr y Fro bellach fynediad at Linell Cyngor a Gwybodaeth 24 awr, a ddarperir gan Westfield Health.

Beth bynnag yw'r broblem, mae cymorth a chyngor dros y ffôn ar gael.

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi arweiniad cyfrinachol i chi ar faterion meddygol, cyfreithiol neu ddomestig gan gwnselwyr cymwys, cynghorwyr cyfreithiol a nyrsys.

O straen, profedigaeth neu gyngor perthnasoedd i bryderon iechyd ac arian, byddwch yn gallu siarad â chwnselydd cymwys unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.  

 

Defnyddio’r gwasanaeth

Ffoniwch 0800 092 0987 (Ar gael 24 awr y dydd. Gall costau galwadau fod yn berthnasol)

Gofynnir i chi am eich rhif cynllun Westfield Health - dyfynnwch: 72115 ac enw eich cyflogwr.

Nid yw’r rhif cynllun yn adnabod galwyr unigol ac ni fydd unrhyw ystadegau defnydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.  Nid yw'r galwadau'n cael eu recordio.  Gwasanaeth cyfrinachol yw hwn; ni fydd cynnwys eich galwad yn cael ei ddatgelu i unrhyw un arall oni bai eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o niwed difrifol.  Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan Health Assured Ltd, ar ran Westfield Health.

Mynediad at adnoddau lles ar-lein gyda My Healthy Advantage

Gallwch hefyd gael mynediad at ystod o adnoddau lles trwy lawrlwytho'r ap ‘My Healthy Advantage’ gyda’r cod WHNI neu fynd i'r  wefan Health Assured a rhoi 72115 fel eich enw defnyddiwr a chyfrinair.

I gael mynediad at Wisdom:

Dim ond y deiliad polisi all gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Mae ar gael fel ap blaengar, sy'n golygu yn ogystal ag ap symudol y gallwch fewngofnodi ar eich ap ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur gan ddefnyddio porwr rhyngrwyd. 

Mae cod unigryw y byddwch chi ei angen wrth gofrestru. Defnyddiwch WHVOL. Chi sy’n creu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair eich hun. Ar ôl cofrestru gallwch gyrchu Wisdom trwy ap neu drwy borwr rhyngrwyd gan ddefnyddio'r un enw defnyddiwr a chyfrinair.

Lawrlwytho: Mae Wisdom ar gael ar Apple App Store ar gyfer iOS a Google Play Store ar gyfer Android.

Gallwch hefyd gael mynediad i'r wefan 

Beth sydd wedi’i gynnwys

  • Defnydd diderfyn o'r gwasanaeth ffôn cyfrinachol, sy’n rhoi cymorth i chi gan dîm o weithwyr proffesiynol cymwys

  • Cymorth dros y ffôn gan gwnselydd sydd wedi'i hyfforddi'n llawn ar faterion fel: straen; gorbryder; problemau teuluol; profedigaeth; rheoli arian; iselder; perthnasoedd; problemau yn y gwaith; camddefnyddio sylweddau

  • Gwybodaeth gyfreithiol dros y ffôn am ddim gan weithiwr proffesiynol cyfreithiol profiadol ar ystod eang o faterion fel anghydfodau defnyddwyr; eiddo; moduro; landlord / tenantiaeth; dyled; budd-daliadau lles; materion priodasol; teulu; ewyllysiau a phrofiant

  • Nyrs gydymdeimladol ar ben arall y ffôn yn rhoi’r amser i chi siarad am eich iechyd a'ch lles. Bydd y tîm o weithwyr meddygol proffesiynol yn rhoi cyngor a gwybodaeth arbenigol hawdd eu deall i chi ar ystod eang o faterion iechyd a ffordd o fyw gan gynnwys: symptomau a chyflyrau meddygol, triniaethau meddygol a llawfeddygol; profion a gweithdrefnau ysbyty; salwch plentyndod; gofalu am bobl hŷn; deiet ac ymarfer corff; lleihau'r defnydd o alcohol; rhoi'r gorau i ysmygu

Beth nad yw wedi’i gynnwys

  • Cwnsela strwythuredig 

  • Gofal argyfwng: nid gwasanaeth brys yw hwn.   Ar adegau prysur, efallai y bydd angen cymryd eich manylion a threfnu amser cyfleus i'r cwnselydd, cynghorydd cyfreithiol neu weithiwr iechyd proffesiynol mwyaf priodol eich ffonio'n ôl

  • Diagnosis o gyflwr meddygol neu roi presgripsiwn: mae'r gwasanaeth yn rhoi arweiniad cyffredinol yn unig ac ni fwriedir iddo ddisodli eich gofal meddygol personol arferol 

  • Cyngor cyfreithiol neu wybodaeth am anghydfodau cyflogaeth