Staffnet+ >
Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth Twyll
Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth Twyll
Bob mis Tachwedd, mae cannoedd o sefydliadau ledled y byd yn addo codi ymwybyddiaeth o dwyll yn eu gweithleoedd a'u cymunedau.
I gefnogi hyn, bydd Bro Morgannwg yn cynghori ar feysydd allweddol sy'n effeithio ar ein hamgylchedd twyll presennol.
Yma yn y Fro, mae'r cyngor yn parhau i ddatblygu diwylliant gwrth-dwyll sy'n atgyfnerthu’r neges na fyddwn yn goddef unrhyw dwyll, llygredd neu ladrata, gan ymgysylltu'n weithredol â phawb yn ein bwrdeistref sydd â chyfrifoldeb i atal twyll, llygredd a lladrata yn erbyn y Cyngor e.e. gweithwyr y Cyngor, aelodau'r Cyngor, cyflenwyr, contractwyr a thrigolion y Fro.
Bydd y Cyngor yn sicrhau’r safonau uchaf o onestrwydd, uniondeb ac atebolrwydd er mwyn diogelu arian cyhoeddus, a bydd yn mynd ati i geisio rhwystro ac atal twyll, llygredd a lladrata a sicrhau bod yr holl risgiau posibl yn cael eu lleihau.
Fel rhan o’r Fenter Twyll Genedlaethol, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd rhan mewn ymarfer paru data cyfrifiadurol gyda swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu cymharu gwybodaeth bersonol a gedwir gan wahanol sefydliadau. Pan ddeuir o hyd i barau, gall ddangos anghysondeb y mae angen ymchwilio ymhellach iddo, a gall ddatgelu achosion lle mae hawliadau a thaliadau o bosib wedi’u gwneud naill ai’n dwyllodrus neu ar gam.
I gefnogi hyn, bydd y cyngor yn darparu data penodol i’r Archwilydd Cyffredinol a gaiff ei ddefnyddio o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Er nad oes angen cael cydsyniad unrhyw rai o’r unigolion dan sylw o dan delerau Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR), cynhelir yr ymarfer paru data mewn cydymffurfiaeth lwyr â chod ymarfer priodol.
Mae rhagor o wybodaeth am y fenter hon ar gael yma.