Dysgu am dor diogelwch data gyda Bobi

Meet Data Breach Bobi (CY)Yr wythnos hon bydd yr ymgyrch ‘Gwnewch eich Rhan, byddwch yn gall gyda data’ yn cael ei lansio a’r Hyb Staffnet+ Mynediad Diawdurdod at Ddata.

Ochr yn ochr â'r Modiwl Dysgu Diogelu Data gorfodol ar iDev, nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o beth yw mynediad diawdurdod at ddata, pryd i roi gwybod am hyn a sut i wneud hynny.

Fel Cyngor, rydyn ni'n casglu llawer o ddata personol am y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Weithiau gall pethau fynd o le, a gellir defnyddio data personol yn anghywir neu ei roi i dderbynnydd anfwriadol. Pan fydd hyn yn digwydd, gallai achos o fynediad diawdurdod at ddata fod wedi codi.

Er bod y Cyngor yn disgwyl i staff fod yn ofalus wrth drin data personol mae hefyd yn deall oherwydd faint o ddata rydyn ni’n ei drin ei bod yn anochel y gall mynediad diawdurdod at ddata ddigwydd o bryd i'w gilydd. 

Ewch i'r Hyb Mynediad Diawdurdod at Ddata i ddysgu mwy gyda Bobi Mynediad Diawdurdod at Ddata:

Hyb Mynediad Diawdurdod at Ddata