Os ydych chi’n credu y gallai fod achos o fynediad diawdurdod at ddata, cysylltwch â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth cyn gynted â phosibl.
Mae'r Tîm yma i helpu a does dim cwestiwn yn rhy fach na phroblem yn rhy fawr. Er bod y Cyngor yn disgwyl i staff fod yn ofalus wrth drin data personol mae hefyd yn deall oherwydd faint o ddata rydyn ni’n ei drin ei bod yn anochel y gall mynediad diawdurdod at ddata ddigwydd o bryd i'w gilydd.
Mae dweud wrth y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth cyn gynted ag y gwyddoch yn golygu y gall eich helpu i benderfynu beth sydd angen ei wneud a'ch cynorthwyo drwy eich tywys drwy unrhyw gamau pellach a allai fod yn angenrheidiol. Gallan nhw hefyd roi arweiniad i chi ar beth i'w ystyried a thrafod gyda chi sut y gellid atal mynediad diawdurdod at ddata yn y dyfodol.
Mae'r Tîm hefyd yn ystyried patrymau a thueddiadau i benderfynu a oes angen gwneud newidiadau sefydliadol.