Bydd y ffordd rydych chi'n cyflwyno taflenni amser yn newid yn fuan

Trwy Oracle Fusion, mae gennym swyddogaeth newydd sy'n caniatáu i staff y cyngor gyflwyno taflenni amser – gelwir hyn bellach yn Gardiau Amser yn Fusion.

Defnyddir taflenni amser ar unrhyw adeg y byddwch yn hawlio goramser, neu ar gyfer unrhyw staff sy'n gweithio ar gontract taflen amser. Mae'r swyddogaeth hon bellach ar gael ar gyfer staff GRhR a Chyllid a bydd yn cael ei gyflwyno i weddill y sefydliad ar yr amserlen ganlynol.

Timesheets rollout
GwasanaethDerbyniwyd taflenni amser copi caled diwethafCyflwyno taflenni amser Fusion o
SRS & Finance 6 Gorffennaf 2023 7 Gorffennaf 2023
Adnoddau Corfforaethol 31 Gorffennaf 2023 1 Awst 2023
Gwasanaethau Cymdeithasol 31 Awst 2023 1 Medi 2023
Lle ac yr Amgylchedd a Thai 30 Medi 2023 1 Hydref 2023
Ysgolion a Dysgu a Sgiliau 31 Hydref 2023 1 Tachwedd 2023

 

Gallwch gyrchu’r swyddogaeth Cerdyn Amser o ddyfais gorfforaethol e.e. gliniadur gwaith neu ffôn, trwy ddyfeisiau personol trwy Staffnet+, neu drwy'r ap symudol.

Gallwch gael mynediad i'r hyfforddiant perthnasol drwy'r dolenni canlynol:

Cardiau Amser Hunanwasanaeth Cyflogeion

Cardiau Amser Hunanwasanaeth Rheolwyr

Nodyn i Reolwyr: Cofiwch wirio nad yw cardiau amser a gyflwynir yn Fusion wedi cael eu talu o'r blaen gan ddefnyddio'r broses bapur, ni fydd Fusion yn gwneud unrhyw wiriadau p’un a yw’r taliadau hyn wedi'u gwneud o'r blaen.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyb Oracle Fusion neu cysylltwch â’ch Hyrwyddwr Fusion.