Ynglŷn ag Oracle Fusion
Mae llwyfan newydd Oracle Fusion yn rhoi porth hunanwasanaeth i bob cyflogai i gyflwyno gwahanol geisiadau adnoddau dynol, llwyfan llawer gwell i reolwyr adolygu a gweithredu ar y rhain yn ogystal â chwblhau llawer o'r tasgau sydd angen ffurflen BM ar hyn o bryd, a llwyfan caffael llawer gwell.
Mae'r system newydd yn seiliedig ar y cwmwl ac felly mae staff yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio dyfeisiau gwaith a phersonol, gyda dull mewngofnodi un cam fydd yn golygu na fydd angen i chi osod a chofio cyfrineiriau lluosog.
Fel rhan allweddol o strategaeth ddigidol y Cyngor mae'r platfform hefyd yn gyrru effeithlonrwydd drwy ei wneud yn gyflymach ac yn haws i reolwyr gwblhau tasgau. Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni am gost is na'r platfform Oracle presennol y bydd yn ei ddisodli ac felly bydd hefyd yn arbediad ariannol sylweddol i'r sefydliad.
Mae'r llwyfan yn rhoi'r Cyngor ar flaen y gad yn y sector cyhoeddus o ran rheoli'r gadwyn gyflenwi, y gyflogres, a phrosesau Adnoddau Dynol.